Noddi

A oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o ŵyl lenyddiaeth drosedd ryngwladol gyntaf yng Nghymru?

Os felly, hoffwn ni glywed oddi wrthoch chi!

  131 ni

Rydym am gynnal yr ŵyl orau posibl. Mae darparu gŵyl dda a diddorol yn waith caled (gwaith yr ydym yn falch o’i wneud!) ond mae hefyd yn gofyn am swm sylweddol o arian. 

Rydym yn ffodus iawn o fod wedi cael statws elusennol, ac rydym wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Tref Aberystwyth. Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn partneru â ni i hyrwyddo’r ŵyl. Rydym yn ceisio am nawdd ac yn gweithio gyda sefydliadau eraill, a gobeithio byddwn ni’n gallu cyhoeddi enwau’r rheiny i gyd yma cyn bo hir. Un o’n hamcanion yw sicrhau bod ein partneriaid yn cynnwys cymaint o gwmnïau lleol neu o Gymru ag sy’n bosibl, nid yn unig er mwyn hyrwyddo ein llenyddiaeth a dramâu teledu gwych, ond hefyd i gyflwyno profiad ehangach o Gymru i’n hymwelwyr. 

Os rydych chi’n hoff o ffuglen drosedd, dramâu trosedd teledu neu drosedd go-iawn, efallai y byddwch am gefnogi ein menter. Rydym yn chwilio am noddwyr, masnachol a phreifat, i’n helpu i sicrhau ein bod yn cynnal yr ŵyl orau o fewn ein gallu. 

Mae gennym gyfleoedd noddi sy’n dechrau gyda chyn lleied â £200, a chyfleoedd partneriaeth ar gyfer amrywiaeth o fathau o fusnes. Os mae hyn o ddiddordeb i chi, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar gwylcrimefest@gmail.com. 

Mae ein tîm yn aros amdanoch chi.