Beth Sy ’Mlaen yn Aberystwyth

Diolch am eich diddordeb yng Ngŵyl CRIME CYMRU Festival; rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb. Tra’ch bod chi yn Aberystwyth, mae cryn dipyn o bethau i’w gweld a’u gwneud. Dyma rai syniadau.

Rydym yn cydweithio gyda’r amgueddfa a’r llyfrgell; bydd y ddau ar agor i’r cyhoedd. Er na fyddwch yn gallu crwydro Amgueddfa Ceredigion Museum tra bod yr ŵyl ymlaen, os cewch y cyfle byddwch yn darganfod llawer iawn o drysorau yno.

Mae’r ddwy lyfrgell yn gweithio fel arfer trwy’r holl amser eu bod yn ein croesawu gyda’n digwyddiadau. Mae pobl hyfryd Archifdy Ceredigion wedi paratoi taith gerdded gyda’r thema Trosedd a Chosb yn hen Aberystwyth, i’ch galluogi i grwydro’r dref gyfareddol hon wrth ddysgu am rai o agweddau hynod o ddiddorol yr ardal. Casglwch gopi am ddim o’r daith yn Adeilad y Llyfrgell a’r Archifdy, Canolfan Alun R Edwards (Hen Neuadd y Dref). Dyma ragor o wybodaeth am Lyfrgell Ceredigion Library ac Archifdy Ceredigion Archives ,  ac am Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

A chithau wedi dod yma ar gyfer llyfrau, mae’n siŵr y byddwch am ymweld â siopau llyfrau. Mae  Waterstones  ar y brif ffordd trwy’r dref; y cyfeiriad yw 27 Stryd Fawr.  Rownd y gornel, yn 13 Heol y Bont, dyma siop annibynnol hyfryd Siop Inc .  Mae Siop Y Pethe ar lawr cyntaf siop newydd ei hadnewyddu, gyferbyn â Ffordd y Môr ar Rodfa’r Gogledd. Ceir hefyd lle newydd, The Bookshop By The Sea ar Stryd y Farchnad. Os hoffech bori trwy lyfrau ail-law, beth am daro i mewn i Ystwyth Books ar Lon Rhosmari (rownd y gornel o Siop Inc) neu ymweld â siop lyfrau Oxfam ar Rodfa’r Gogledd.

Pan fyddwch yn chwilio am gyfle i ymlacio dros wydryn, mae bar coctels Y Bañera  yn agos at yr amgueddfa. Maen nhw hyd yn oed yn cynnig diodlen coctels arbenning ar gyfer Gŵyl Crime Cymru Festival.

Mae hefyd yn werth ymweld â Chanolfan Y Celfyddydausy’n cynnig dewis eang o ddigwyddiadau, comedi, dawns, cerddoriaeth, ffilm a sioeau gwyddoniaeth, hyd yn oed. Peidiwch â’i cholli – os bydd tipyn o amser sbâr gennych chi.

Profiad anhepgor yw cerdded y Promenâd ar lan y môr sydd wastad yn hardd ac weithiau’n ddramatig. Er bydd yr Orymdaith Dreigiau dim ond yn mynd ar hyd rhan fach o’r Promenâd, o’r Castell hyd at y Stondin Band, mae yna lawer mwy i’w fwynhau.  Hyfryd ac atgyfnerthol.

Mae yna lawer mwy o drysorau i’w darganfod yn Aberystwyth, felly ewch i grwydro!