Trefnwyr yr Ŵyl

CADEIRYDD YR ŴYL, Alis Hawkins

Awdur ar restr fer Historical Dagger y CWA, magwyd Alis Hawkins ar fferm wartheg yng Ngheredigion. I blesio ochr mewnblyg ei phersonoliaeth, meddyliodd i ddechrau fod yn fugail, ond ar ôl tair blynedd yn astudio Saesneg yng Ngholeg Corpus Chrisi, Rhydychen, darganfu elfen allblyg a’r awydd i gyfathrebu, a’i harweiniodd i gael ei hyfforddi fel Therapydd Lleferydd ac Iaith. Mae hi wedi treulio’r tri degawd canlynol yn magu dau fab, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth ac yn ysgrifennu ffuglen, llyfrau ffeithiol a dramâu. Mae hi’n ysgrifennu’r math o lyfrau y hoffai hi eu darllen ei hun: ffuglen drosedd a dirgelwch hanesyddol â’r canolbwynt ar y cymeriadau, gyda gwerthoedd cynhyrchu llenyddol.

Wrth ysgrifennu nofelau hanesyddol mae Alis yn cymryd ei gwaith ymchil o ddifrif – weithiau gyda chanlyniadau annisgwyl. Wrth ymchwilio i mewn i dechneg canoloesol llosgi golosg, cafodd ei chyfareddu gan y grefft, a bellach mae hi a’i phartner yn rhedeg y tîm sy’n cynnal techneg ‘llosgi daear’ o gynhyrchu colosg yn Fforest y Ddena.

Cyfres: cyfres ffuglen drosedd hanesyddol Crwner Dyffryn Teifi, gyda’r prif gymeriadau Harry Probert Lloyd a John Davies, wedi’u cyhoeddi gan Canelo. #1 – None So Blind (2018),#2 – In Two Minds (2019), #3 – Those Who Know (2020), #4 Not One Of Us (Sept 2021)

Testament, nofel ddau gyfnod a leolir mewn tref brifysgol ffuglenol Salster yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r unfed ganrif ar hugain – wedi’i chyhoeddi gan Sapere Books.

The Black and The White, nofel ddirgelwch seicolegol a leolir yn ystod y Pla Du – wedi’i chyhoeddi gan Sapere Books.

Darganfyddwch fwy am Alis ar www.AlisHawkins.co.uk, ar Facebook – Alis Hawkins Author – ac ar Twitter: @Alis_Hawkins. 

YSGRIFENNYDD YR ŴYL, GB WILLIAMS

Mae GB Williams yn arbenigo mewn nofelau trosedd cymhleth a chyflym.

Aelod ac ysgrifennydd Crime Cymru, treiliodd GB flynyddoedd yn gweithio fel saernïwr systemau cyn rhoi gorau i’r cymudo er mwyn dod yn awdur a golygydd adeileddol llawrydd.  Yn 2014 cyrhaeddodd ei stori fer, Last Shakes, restr fer gwobr Margery Allingham y CWA ar gyfer stori fer; mae honno bellach ar gael yn ei chasgliad Last Cut Casebook.

Mae ei thrioleg Locked, sy’n dilyn bywyd Charlie Bell, yn arwain y darllenydd i feysydd newydd gyda lleoliadau sy’n cynnwys carchar ac ymosodiad ar fanc.  Yn symud rhwng Cader Idris a Llundain, mae The Chair yn dangos nad yw bywyd byth yn diweddu yn ôl y disgwyl, a bod rhaid inni i gyd frwydro dros yr hyn rydym yn credu ynddo.

Mae GB wastad yn weithgar o fewn y gymuned awduron; mae hi’n aelod y CWA ac mae hi’n Library Champion y CWA yng Nghymru ym mis Hydref 2021.

Ar hyn o bryd mae GB yn gweithio ar gyfer cytundeb ddau lyfr; daw mwy am hyn cyn gynted â phosibl. Mae ganddi hunan arall fel awdur steampunk gyda thro troseddol.

Wedi’i geni a’i magu yn Sir Gaint, symudodd GB i Dde Cymru, lle mae’n dal i fyw gyda’i theulu a chath sy’n mynnu’r sylw mwyaf yn y byd. Ac mae hi’n casáu pob un ffoto a dynnwyd ohoni erioed – gan gynnwys yr un ar y wefan hon.

Darganfyddwch fwy ar www.gailbwilliams.co.uk

. 

Trysorydd, Mark Ellis

Mae Mark yn awdur nofelau ias a chyffro, a fu gynt yn fargyfreithiwr ac yn entrepreneur, o Abertawe.

Creodd DCI Frank Merlin, ditectif yr heddlu o dras Eingl-Sbaenaidd sy’n byw a gweithio yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae ei lyfrau yn cyfwlyno i ddarllenwyr bortread byw o Lundain adeg y rhyfel, mewn cymysg celfydd o blotiau gafaelgar, cynllwynio gwleidyddol a phrif gymeriad carismatig.

Cafodd Mark ei fagu yng nghysgod profiad ei rieni o’r Ail Ryfel Byd. Gwasanaethodd ei dad yn y llynges, a bu farw yn ifanc. Adroddodd ei fam straeon iddo o wylio bombardiadau trwm Abertawe o lecyn diogel ar fryn yn Llanelli, ac o fynychu dawnsfeydd amser te yn Llundain adeg y rhyfel o dan y bomiau a’r dwdl-bygs.

O ganlyniad, mae Mark wastad wedi cael ei gyfareddu gan yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig y Ffrynt Cartref a’r ffaith yr oedd trosedd yn ffynnu wrth i’r rhan fwyaf o’r genedl wneud ymdrech arwrol. Roedd llofruddiaeth, lladrad a dwyn yn rhemp, a chynigiodd y Blitz gyfle gwych am ysbeilio helaeth.

Roedd yn fyd diddorol, garw a chreulon. Byd DCI Frank Merlin.

Mae DCI Frank Merlin yn ymddangos mewn pum nofel: The Embassy Murders, In the Shadows of the Blitz, The French Spy, A Death In Mayfair Dead in the Water. Cyhoeddwr Mark yw Headline Accent ac mae ei lyfrau hefyd ar geal mewn fformat awdio gan Audible.

Mae Mark Ellis yn aelod o’r Crime Writers Association (CWA). Roedd Merlin At War (bellach The French Spy) ar restr hir Historical Dagger y CWA yn 2018.

Darganfyddwch fwy am Mark ar www.markellisauthor.com.

SWyddog Cyswllt i’r Cyfryngau, Bev (B.E.) Jones

Mae Beverley Jones yn gyn-newyddiadurwraig a swyddog y wasg i’r heddlu, bellach yn nofelydd ac yn gyffredinol yn obsesu am lyfrau.

Ganwyd Bev mewn pentref bach yng nghymoedd De Cymru, i’r gogledd i Gaerdydd. Dechreuodd ei gyrfa newiddiaduraeth gyda papurau newydd Trinity Mirror, yn ysgrifennu straeon i’r Rhondda Leader a’r Western Mail, cyn dod yn newidduadurwraig ddarlledu gyda newyddion Today TV y BBC, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

Mae hi wedi adrodd hanes pob math o droseddau (yn ogystal â newyddion cymunedol a darnau nodwedd) gan gynhyrchu straeon a chynnwys ar gyfer papurau newydd a theledu byw.

Yn fwyaf diweddar mae Bev wedi gweithio fel swyddog y wasg i Heddlu De Cymru, gan gyfathrebu â’r cyfryngau a chymryd rhan mewn ymchwiliadau trosedd a chynllunio argyfwng.

Does dim syndod, efallai, ei bod hi wedi defnyddio’r profiadau hyn o ‘drosedd go-iawn’ ynghyd â’i mewnwelediad i ochr tywyll natur pobl, fel sail i’w nofelau dirgelwch seicolegol a leolir yn ac o gwmpas De Cymru.

Cyhoeddir ei nofelau Where She Went, Halfway a Wilderness gan Little Brown o dan yr enw BE Jones. Mae ei nofel iasoer diweddaraf, o dan yr enw Beverley Jones, ar gael nawr.

Ar hyn o bryd mae Firebird Pictures yn cynhyrchu cyfres deledu Wilderness  ar gyfer Amazon Prime, gyda Jenna Coleman ac Oliver Jackson Cohen yn chwarae’r prif rannau. Fe’i darlledir yn 2023. 

Cewch sgwrs gyda Bev ar Goodreads.co.uk o dan yr enw B E Jones neu Beverley Jones, ac ar  Twitter, @bevjoneswriting

Cynrychiolir Bev gan yr Ampersand Agency.

Mentor a Chynghorwr, Dr Jacky Collins

Mae Dr Jacky Collins, neu Dr Noir i roi ei henw llawn iddi, a fu unwaith yn Uwch-ddarlithydd mewn Llenyddiaeth, Ffilm a Theledu ac Iaith a Diwylliant Sbaen ym Mhrifysgol Northymbria, bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Stirling. Yn 2014 sefydlodd Jacky Gŵyl Ryngwladol Ffuglen Drosedd Newcastle Noir. Yn fwy diweddar, mae hi wedi mentro i fyd radio lleol fel cyd-gyflwynydd rhaglen ffuglen drosedd bob yn ail wythnos ar SpiceFM, mae hi’n cynnal digwyddiadau llenyddol ar-lein gyda thîm Honey & Stag, ac mae’n rhan o dîm Corylus Books, cyhoeddwr annibynnol newydd o ffuglen drosedd gyfieithedig, o Rwmania, Gwlad yr Iâ a thu hwnt.

Cyfieithydd, Alison Layland

 Mae aelod Crime Cymru a chyfieithydd gwefan yr ŵyl, Alison Layland, yn awdur a chyfieithydd sydd wedi dweud straeon wrthi’i hun ers cyn iddi gofio, er dechreuodd eu cofnodi i bobl eraill eu rhannu ar ôl iddi symud i Gymru yn 1997 a throdd cwrs dysgu Cymraeg i ddosbarthiadau ysgrifennu creadigol. Enillodd gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi yn 2002.

Astudiodd Eingl-Sacsoneg, Norseg a’r ieithoedd Celteg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ar ôl cyfnod byr yn gyrru tacsis, gweithiodd am nifer o flynyddoedd fel tirfesurydd siartedig cyn dychwelyd i’w chariad cyntaf – ieithoedd. Mae hi’n cyfieithu rhwng Almaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg, ac mae ei chyfieithiadau cyhoeddedig yn cynnwys nifer o nofelau arobryn a phoblogaidd.

Mae hi’n awdur o ddwy nofel ddirgelwch seicolegol: Someone Else’s Conflict, stori afaelgar am ganlyniadau hir rhyfel, a oedd yn Nofel Gyntaf y Mis ar wefan LoveReading, a Riverflow, hanes cyfrinachau teuluol a thyndra mewn cymuned wledig, gyda chefndir o lifogydd a phrotest amgylcheddol, a ddewiswyd gan Waterstones yn Nofel y Mis Cymru; cyhoeddir y ddwy nofel gan wasg Honno.

Darganfyddwch fwy am Alison ar https://www.alayland.uk/. 

 

 

GOLYGYDD Y CYLCHLYTHYR, Chris Lloyd

Roedd Chris Lloyd yn byw yng Nghatalonia am oddeutu ugain mlynedd, lle dysgodd Saesneg cyn gweithio mewn cyhoeddi academaidd ac wedyn cyfieithu. Mae e hefyd wedi byd yng Ngwlad y Basg a Madrid, ynghyd â Grenoble yn Ffrainc, lle gwnaeth ymchwil i fudiad Gwrthsafiad Ffrainc. Mae e bellach wedi yngartrefi yn Ne Cymru ei enedigaeth, yn dafliad carreg i Fannau Brycheiniog.

yn awdur a chyfieithydd, mae e wedi cyfrannu nifer o ddarnau i antholegau llenyddiaeth wedi’i chyfieithu. Dechreuodd ei yrfa ysgrifennu gyda llyfrau teithio am rannau gwahanol Sbaen a Ffrainc cyn ymwroli o’r diwedd i fynd i’r afael ag ysgrifennu ffuglen drosedd. Cafodd fwrsari Llenyddiaeth Cymru yn 2010, a’i galluogodd i dreulio amser yng Nghatalonia yn gwneud ymchwil ar gyfer cyfres Elisenda Domènech, sy’n ymwneud â swyddog yn heddlu datganoledig Catalonia, a leolir yn ninas hyfryd Girona.

Yn ganlyniad ei ddiddordeb oes yn yr Ail Ryfel Byd, a gwrthsafiad a chydweithrediad yn Ffrainc dan oresgyniad, The Unwanted Dead (Orion) yn nofel gyntaf Chris a leolir ym Mharis, gydag Eddie Giral yn brif gymeriad. Bydd y gyfres arfaethedig yn dilyn Eddie trwy’r Goresgyniad, wrth iddo geisio dilyn llwybr rhwng gwrthsefyll a chydweithredu, bob amser yn bod pwy mae rhaid iddo fod er mwyn goroesi’r diheurbrawf sydd wedi disgyn ar ei gartref.

GWEFEISTR, PHILIP GWYNNE JONES

Philip Gwynne Jones yn Abertawe ac fe’i magwyd yn ne Cymru. Fe dreuliodd ugain mlynedd yn niwydiant TG cyn sylweddoli roedd yn hollol groes i’w bersonoliaeth. Doedd dim dwywaith, felly, y byddai’n cael ei hun yn wefeistr are gyfer Gŵyl Crime Cymru! Mae’n gweithio bellach fel awdur a chyfieithydd. Mae’n byw yn Fenis gyda’i wraig Caroline a chath lled-gyfeillgar, Mimi.

Mae’n mwynhau coginio, celf, cerddoriaeth glasurol ac opera, ac o bryd i’w gilydd mae’n cael ei glywed a’i weld yn canu bas gyda Cantori Veneziani. Mae e hefyd yn hoff o hen ffilmiau arswyd, ac mae’n gwrando ar ormod o lawer o roc blaengar o’r Eidal.

Roedd ei nofel gyntaf, The Venetian Game, yn Nofel Ias a Chyffro’r Mis Waterstones ac yn gwerthwr gorau’r Times yn y 5 uchaf.  Mae The Angels of Venice, chweched nofel cyfres Nathan Sutherland, ar gael nawr.