Datganiad I’r Wasg

DATGANIAD I’R WASG

YL CRIME CYMRU FESTIVAL, 2023

Byddwch yn barod am ddirgelwch, drygioni a phob math o anhrefn droseddol mewn un o leoliadau mwyaf hardd Cymru, pan fydd Gŵyl CRIME CYMRU Festival yn dod i Aberystwyth yn 2023.

 

O Ddydd Gwener, 21 o Ebrill i Ddydd Sul 23 o Ebrill, bydd ffans ffuglen drosedd o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd o’r diwedd, i gwrdd ag awduron enwog rhyngwladol yng Ngŵyl CRIME CYMRU Festival, y cyfle cyntaf i ymgasglu’n fyw ers i’r Ŵyl gael ei lansio ar-lein yn 2021. Oherwydd pandemig Cofid a chyfyngiadau cadw pellter, cynhaliwyd ail ddigwyddiad arlein yn 2022, a oedd yn cynnwys mwy na dwsin o baneli gyda mwy na 30 o awduron, yn ystod chwe noswaith gyffrous. Daeth mwy na 2000 o ffans brwdfrydig o’r genre i wylio paneli gyda rhai o’r enwau mwyaf enwog ym myd rhyngwladol sgwennu trosedd, gan gynnwys Belinda Bauer, Mark Billingham, Ann Cleeves, MW Craven, Elly Griffiths, Mari Hannah, Vaseem Khan, Clare Mackintosh, Abir Mukherjee and Lilja Sigurðardóttir, heb anghofio ein nofelwyr trosedd Cymreig o blith aelodau Crime Cymru.

Cynhwysodd y digwyddiad pob math o drafodaethau, o nofelau dirgelwch seicolegol, ffuglen drosedd hanesyddol, nofelau ysbïo a nofelau fforensig, a leolir yng Nghymru neu mewn lleoliadau pell o India i lefydd gwyllt yr Unol Daleithiau, ynghyd â dinasoedd Fenis, Llundain, Newcastle a Reykjavík.

Yn ogystal â’r sgwrs arferol am gymeriadau, cynllunio ac ysbrydoliaeth, os oeddech yn ddigon ffodus i fod yn y gynulleidfa, fe fyddech chi wedi clywed sawl cyfrinach a thrysor o wybodaeth o’r tu mewn, pigion unigryw i Ŵyl CRIME CYMRU Festival, megis:

 

Y wyrth gymhleth a elwir yn nofel drosedd balindromig.

Sut mae dewis eich teyrn a bod yn hapus!

Yr unig lyfr Vaseem Khan a leolir yng Nghymru.

Beth (neu bwy) yn union sy’n cuddio mewn wardrob un awdur trosedd.

Hoff chwisgi Abir Mukherjee.

Heb anghofio rhyfeddod y band Hawkwind… (O ddifri nawr, rhaid iti beidio â chrybwyll Hawkwind byth eto, Philip Jones.)

 

Wedi ennyn eich diddordeb? Pam lai? Mae 2000 o fynychwyr wedi dweud wrthym eu bod wedi mwynhau tu hwnt. Ond os oeddech chi wedi colli’r cyfle, peidiwch â phoeni, oherwydd yn 2023 gallwch gwrdd â’ch hoff awduron yn y cnawd, ac efallai darganfod rhai newydd, yn yr ŵyl tri-diwrnod yn Aberystwyth. Yn yr ŵyl fyw gyntaf erioed, cynhelir y digwyddiadau gyda’r awduron yn Amgueddfa Ceredigion, adeilad hanesyddol hardd yng nghanol y dref. Bydd yr ŵyl yn cynnwys paneli, sgyrsiau gydag arbenigwyr, cwisiau a arweinir gan awduron a digwyddiadau eraill yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws y dref, noswaith gala gydag un o un o sêr rhyngwladol ffuglen trosedd, Clare Mackintosh, ac aelod o Crime Cymru a gwerthwr gorau, Philip Gwynne Jones. Os na allwch fynychu yn y cnawd, gallu ymuno â’n rhaglen ‘hybrid’ a fydd yn cynnwys rhagor o baneli arlein i’r rhai sydd am deimlo’r wefr heb adael y tŷ.

Bydd amserlen lawn cyn bo hir ar wefan yr Ŵyl, www.gwylcrimecymrufestival.co.uk, lle gallwch chi gofrestru am ddigwyddiadau arlein am ddim a phrynu tocynnau ar gyfer y sesiynau byw. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y newyddion diweddaraf.

 

Codi proffil ffuglen Gymreig!

Pam cynnal gŵyl drosedd yng Nghymru, a pham nawr? Wel, cafodd Gŵyl CRIME CYMRU Festival ei dyfeisio gan gydweithfa awduron o’r enw Crime Cymru, a sylweddolodd, er bod ffuglen drosedd y genre sy’n gwerthu orau ym Mhrydain, ac er bod mwy nag erioed o awduron trosedd o Gymru, nad oedd yna ddigwyddiad ffuglen drosedd unigryw i Gymru hyd yn hyn.

Dim byd i gymharu â gwyliau hynod boblogaidd Bloody Scotland yn yr Alban, gŵyl Newcastle Noir neu Crimefest ym Mryste.

Gyda chyfresi drama drosedd megis Hinterland/Y Gwyll, Keeping Faith/Un Bore Mercher, a Hidden/Craith yn sbarduno diddordeb yn y maes,  mae’r amser yn ddelfrydol i godi proffil ffuglen Gymraeg a Chymreig ac i ddenu ffans newydd.

Mae Crime Crime Cymru yn credu bod gan Gymru rywbeth unigryw i’w gynnig i’r byd ffuglen drosedd, ac rydym yn benderfynol o newid agweddau trwy gyfrwng ein gŵyl drosedd ryngwladol.

Pwy yw Crime Cymru?

Sefydlodd yr awduron Alis Hawkins, Matt Johnson (y ddau sydd wedi bod ar restr fer gwobrau’r Daggers gan y Crime Writers’ Association) ac awdur Rosie Claverton Crime Cymru, cydweithfa awduron Cymru yn 2017, gyda thri phrif amcan.

Cefnogi awduron trosedd sydd â pherthynas go-iawn a phresennol â Chymru

Helpu meithrin awduron talentog newydd o Gymru

Hyrwyddo Cymru a’i diwylliant, gyda’r pwyslais ar lyfrau trosedd, yn fyd-eang.

 

O hyn daeth yr egin syniad i roi i Gymru ei gŵyl drosedd gyntaf erioed, ac felly dechreuodd y gwaith caled.

‘Mae’n gyffrous iawn meddwl ein bod ni’n dod â’r ŵyl ffuglen drosedd fyw gyntaf i Gymru, a bydd yna rywbeth i bawb,’ medd Alis Hawkins, sefydlydd Crime Cymru a chadeirydd y grŵp sy’n trefnu’r ŵyl. ‘Mae llwyddiant ein gwyliau arlein yn 2021 a 2022 wedi dangos bod galw mawr am ŵyl fel hon a’i golwg ffres ar y genre poblogaidd hwn. Rydym wedi croesawu mynychwyr o ledled y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Awstralia, Gwlad yr Iâ a nifer o leoliadau rhyngwladol eraill, yn ogystal â ffans trosedd o Gymru a gweddill y DU, a oedd i gyd yn canmol hwyl yr ŵyl. Nawr rydym am ddod â chymaint o ffans ag sy’n bosibl i dref hyfryd Aberystwyth, gan weithio gyda’r awdurdod lleol a busnesau lleol i ddarparu rhywbeth hollol unigryw ac arbennig. Byddwn ni’n datgan cyn bo hir pwy fydd ar restr y gwesteion.’

 

Gwybodaeth bellach

Gwefan yr ŵyl: <https://gwylcrimecymrufestival.co.uk/>

Gwefan cydweithfa Crime Cymru: https://crime.cymru/

Anfonwch ymholiadau’r wasg i bev@gwylcrimecymrufestival.co.uk

 

 

Diwedd