Bwyd a Diod

Mae’r Canolbarth yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod gwych sy’n cyflenwi ein bwytai, gwestai, tafarnau, bariau a chaffis gyda llawer o gynnyrch blasus ichi ei fwynhau. Yn ystod eich amser yn Aberystwyth, cofiwch ofyn i’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw am straeon lleol a drosglwyddir i lawr y cenedlaethau – efallai dros wydryn o jin, neu gwrw arobryn?

Os byddwch yn teimlo’r rhaid am dipyn o awyr iach ar ôl sbel mewn ystafell yng nghwmni eich hoff awduron, gallwch grwydro’r arfordir a’r cefn gwlad. Mae llawer o’n hatyniadau yng Nghymru â chaffis neu ystafelloedd te ar y safle, felly gallwch fwynhau diwrnod cyfan allan.

Edrychwch ar https://www.visitmidwales.co.uk/information/eating-and-drinking.aspx am ragor o wybodaeth.