Ein gwerthoedd

Sefydlwyd Crime Cymru gyda thri phrif amcan:

  • Cefnogi awduron trosedd sydd â pherthynas go-iawn a phresennol â Chymru
  • Helpu meithrin awduron talentog newydd o Gymru.
  • Hyrwyddo Cymru, ei diwylliant a’i chelfyddydau, gyda’r pwyslais ar lyfrau trosedd, yn fyd-eang.

Yn ystod y tair blynedd gyntaf o’i fodolaeth, wnaeth y grŵp ganolbwyntio ar y cyntaf o’r amcanion hynny, ond yn 2020 penderfynodd yr aelodau fynd yn groes i ddigalondid y cyfnod a bodloni’r ail a thrydydd amcanion trwy sefydlu ein Cystadleuaeth Nofel Gyntaf Crime Cymru a chynnal gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol bob yn ail flwyddyn, a fydd yn ymgartrefu yn Aberystwyth. 

Ond nid ydym am i Ŵyl CRIME CYMRU Festival fod yn ŵyl ffuglen drosedd fel unrhyw un arall. Hoffwn iddi fod yn unigryw, yn amlwg o wahanol, ac yn llawn Cymreictod. Ac yn fwy na dim, hoffwn iddi fod yn ddeniadol i awduron i’r un graddau â’r cyhoedd sy’n darllen a gwylio ein gwaith. Mae ein nod yn syml – hoffwn i bobl feddwl ‘Dim ond yn Aberystwyth oedd hynny’n bosibl – roedd mor gofiadwy ac mor wahanol’. 

EIN GWELEDIGAETH YW:

  1. Sefydlu gŵyl lenyddol ryngwladol o safon fyd-eang i Gymru, i ddigwydd bob yn ail flwyddyn yn Aberystwyth, bob yn ail ar-lein.
  2. Bod o fudd i Aberystwyth a’i ardal, a chyflwyno Cymru a diwylliant Cymru i fynychwyr yr ŵyl o bob cwr o Brydain, ac i’r byd ehangach.
  3. Hybu’r tri amcan sylfaenol cydweithfa Crime Cymru. 

Mae popeth rydym yn ei wneud wrth gynllunio a gweithredu Gŵyl Crime Cymru Festival ar sail pedwar gwerth sylfaenol:

  • Cynhwysiant
  • Cydweithio
  • Cynaliadwyedd
  • Dilysrwydd

Gwnaethon ni adlewyrchu ein gwerthoedd trwy ddewis Aberystwyth fel lleoliad, dewis sydd wedi cael ei ddathlu’n frwdfrydig gan gyngor y dref a’r sefydliadau cyhoeddus sy’n partneru â ni i wneud Gŵyl Crime Cymru Festival yn  bosibl.