Siaradwyr

Welcome to Gŵyl Crime Cymru Festival 2024! 

Cathy Ace

Awdur poblogaidd tair ar ddeg llyfr yn y gyfres o nofelau traddodiadol Cait Morgan Mysteries, a naw nofel yn y gyfres glyd WISE Enquiries Agency Mysteries,, fe ganwyd a magwyd Cathy Ace yn Abertawe, Cymru, cyn iddi symud i Ganada yn 40 oed. Mae hi’n cyn-Gadeirydd Crime Writers of Canada, ac enillodd y gwobrau Bony Blithe, IPPY ac IBA.

Sufiya Ahmed

Mae Sufiya Ahmed yn awdur arobryn dros ugain o nofelau i blant a phobl ifanc. Mae hi’n ymweld yn gyson ag ysgolion cynradd i siarad am ei hoffter o ddarllen ac am wireddu’i breuddwyd plentyn o ddod yn awdur. 

Mae llyfrau llwyddiannus Sufiya yn cynnwys Secrets of the Henna Girl, Noor-un-Nissa Inayat Khan, Princess Sophia Duleep Singh a chyfres Rosie Raja. Mae Rosie Raja Mission to Cairo, ei nofel ddiweddaraf, yn sôn am arwres ifanc Fwslimaidd yn yr Aifft yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Myfanwy Alexander

Mae Myfanwy wedi cyhoeddi pedair nofel sy’n dilyn anturiaethau’r Arolygydd Daf Dafis, Heddlu Dyfed Powys, efo’r pumed i dod yng Nghorffenaf 2023. Mae’r nofelau wedi gwerthu’n dda gyda dwy wedi eu cyfieithu a’u cyhoeddi’n Saesneg. Yn Awst 2020, darlledwyd addasiad radio o’r nofel gyntaf ar Radio 4, Radio Cymru a Radio Wales. 

John Banville

Mae John Banville yn nofelydd, sgriptiwr, dramäwr ac adolygydd llyfrau. Fe weithiodd fel newyddiadurwr am flynyddoedd, a rhwng 1988 a 2000, fe oedd yn olygydd llenyddol ar gyferThe Irish Times. Ei nofel ddiweddaraf yw The Lock-Up.

Abi Barden

Mae Abi Barden yn byw yn ei thŵr preifat ei hun, gyda’i chath, yn bathu straeon. Tipyn bach yn hynod, efallai, mae’r sefyllfa yn rhyfeddol iawn, er yn gaeth i’r gath. Yn ei barn hi, fodd bynnag, beth sy’n well na chamu oddi allan o’r byd go-iawn am sbel? 

Pam tŵr, tybed? Rhowch y bai ar awdur trosedd G B Williams, sydd â llawer i ateb drosto.

Graham Bartlett

Roedd Graham yn Brif Uwcharolygydd, a phennaeth heddlu Brighton. Bellach, mae’n ysgrifennu llyfrau trosedd, yn awdur dau lyfr ffeithiol a’r gyfres Jo Howe. Mae hefyd yn gynghorwr am bopeth sy’n ymwneud â throsedd a’r heddlu, gan helpu nifer o awduron i greu dilysrwydd yn eu straeon. Mae hefyd yn rhedeg gweithdai a chyrsiau ysgrifennu trosedd.

Penny Batchelor

Mae Penny yn werthwr gorau Amazon gyda’i ddwy nofel ias a chyffro My Perfect Sister a Her New Best Friend, a gyhoeddir gan Embla Books. Caiff ei thrydedd nofel ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2024.  Mae Penny yn gyd-sefydlydd a beirniad yr ADCI Literary Prize, sy’n gwobrwyo ffuglen i oedolion gan awdur ag anabledd/salwch cronig. 

Sam Blake

Mae nofelau Sam Blake wedi cyrraedd Rhif 1 sawl gwaith, ac mae wedi bod ar restr fer Nofel Drosedd y Flwyddyn Iwerddon tair gwaith.  Mae ei degfed nofel, Three Little Birds, ar gael yn siopau llyfrau ar hyn o bryd. Gallwch ei darganfod yn @samblakebooks a www.samblakebooks.com, lle gallwch ymuno â’i Chlwb Darllenwr a derbyn llyfr am ddim.

Llun yr awdur © Alice-Rose Jordan

Paul Burke

Mae Paul Burke yn ysgrifennu adolygiadau ac erthyglau ar gyfer Crime Time, Crime Fiction Lover a Rhwydwaith Lenyddiaeth Ewrop. Mae e’n olygydd a chyflwynydd y podlediad Crime Time FM ac yn feirniad Dagr Hanes y CWA. Cafodd llyfr cyntaf Paul, An Encyclopedia of Spy Fiction, ei gyhoeddi ym mis Mawrth, 2025.

 

Jacky Collins

Mae Dr Jacky Collins yn Gyfarwyddwr Gŵyl Newcastle Noir. O dan yr enw ‘Dr Noir’, mae hi’n cynnal cyfweliadau rheolaidd gydag amrywiaeth o awduron ffuglen drosedd, o’r byd-enwog i’r rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd, mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei chyfres o ‘ymgynghoriadau’ ar sianel YouTube Newcastle Noir – ‘Bydd y Doctor yn Eich Gweld Nawr’ – yn darparu’r newyddion am gyhoeddiadau newydd ar gyfer dilynwyr popeth sy’n ymwneud â ffuglen drosedd.

Catriona Cox

Catriona Cox is Programme Associate for Granite Noir in Aberdeen, Scotland. Having spent 12 years living in Edinburgh and working across the Scottish book trade and Arts sector she now lives in North County Cork, Ireland. She’s happiest stomping the countryside listening to an audiobook. 

Fflur Dafydd

Mae Fflur Dafydd yn nofelydd, sgriptwraig a cherddor arobryn. Mae hi wedi cyhoeddi amrywiaeth o ffuglen a gwaith ffeithiol yn ogystal â chreu dros 50 awr o ddrama oriau-brig ar gyfer S4C. Mae ei nofelau’n cynnwys nofel boblogaidd Gymraeg Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009), a gafodd ei haddasu i’r Saesneg fel The Library Suicides (Hodder & Stoughton, 2023).

Mark Ellis

Mae Mark Ellis yn awdur y gyfres gydnabyddedig DCI Frank Merlin a osodir yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe gyhoeddodd 5 llyfr hyd yn hyn; y diweddaraf ym Mis Mai 2022. Yn aelod o Crime Cymru, fe gafodd ei enwebu ar gyfer wobr y CWA a’i gyhoeddwr yw Headline.

Alun Ffred

Mae Alun Ffred wedi cael gyrfa amrywiol fel athro, cyflwynydd teledu, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm cyn cael ei ethol yn Aelod i Senedd Cymru dros Arfon. Bellach wedi ymddeol, mae’n cyfrannu gyson i gylchgronau Cymraeg ac enillodd Fedal Goffa Daniel Owen ym Moduan yn 2024.



Mary Grand

Fe dyfodd Mary Grand yng Nghymru ac mae hi bellach yn byw ar Ynys Wyth. Yn athrawes plant Byddar gynt, mae hi bellach yn ysgrifennu nofelau trosedd a gyhoeddir gan Boldwood Books. Mae Death at St Jude’s (Chwefror 2024) yn ail yn y gyfres The Isle of Wight Killings, gyda’r prif gymeriad Susan Flynn, ditectif amatur.

Andy Griffee

Mae Andy Griffee yn awdur cyfres drosedd Johnson & Wilde, a leolir ar gamlesi ac afonydd Prydain. Mae ei arwr, newyddiadurwr o’r enw Jack Johnson, yn byw ar fwrdd cwch cul. Dechreuodd Andy ysgrifennu ffuglen ar ôl gyrfa 25 mlynedd gyda’r BBC; mae’n byw yn Sir Caerwrangon. 

Elly Griffiths

Fe ganwyd Domenica de Rosa yn Llundain. Fe astudiodd yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac fe weithiodd yn y byd cyhoeddi cyn ysgrifennu ei nofel gyntaf, The Italian Quarter. Dilynodd tri llyfr arall cyn iddi droi at drosedd gyda The Crossing Places a chael y cyngor i ddyfeisio ‘enw trosedd’. Fel Elly Griffiths (enw ei nain), mae hi’n awdur y gyfres boblogaidd Dr Ruth Galloway, y Brighton Mysteries a thair nofel drosedd arunigol. Enillodd wobr Edgar 2020 ar gyfer The Stranger Diaries ac yn 2016 derbyniwyd Dagr yn y Llyfrgell y CWA. The Last Word, a gyhoeddwyd yn 2024, yw’r pedwerydd nofel gyda DI Harbinder Kaur yn brif gymeriad. Mae Elly hefyd yn ysgifennu’r gyfres ddirgelwch Justice Jones i blant. Mae hi’n byw ger Brighton gyda’i gŵr sy’n archeolegydd; mae ganddi ddau o blant hŷn a chath.

Jacqueline Harrett

Mae Jacqueline Harrett yn hanu o Ogledd Iwerddon, ond fe leolir ei nofelau ditectif yn ac o gwmpas Caerdydd, lle mae hi’n byw ers dros dri deg o flynyddoedd. Yn gyn-athrawes ac academydd, fe drodd at ysgrifennu trosedd ar ôl iddi ymddeol. Mae ei phrif gymeriad, DI Mandy Wilde, yn rebel, yn wyllt wrth natur yn ogystal â’i henw.

Alis Hawkins

Wedi’i magu yng Ngheredigion, mae Alis Hawkins bellach yn byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ar ôl cyhoeddi dwy nofel ganoloesol arunigol, fe drodd i ffuglen drosedd. Fe leolir ei chyfres hanesyddol Crwner Dyffryn Teifi – gyda’r prif gymeriad Harry Probert-Lloyd, cyn-fargyfreithiwr lled-ddall, a’i gynorthwyydd pigog, John Davies – yn yr ardal lle tyfodd; mae wedi bod ddwywaith ar restr fer Historical Dagger y CWA mawreddog. Mae A Bitter Remedy, nofel gyntaf yn y gyfres ddirgelwch a leolir yn Rhydychen, yn cyflwyno polymath ifanc Rhiannon Vaughan a darlithydd Coleg Iesu, Basil Rice; cafodd ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Bydd yr ail, The Skeleton Army, yn ymddangos ar 4 Ebrill 2024.

Alex Hawley

Book blogger and regular literary judge, Alex released his first book in July 2023 about being a disabled person trying to become a crime writer. A regular panelist at festivals and online events, Alex has a deep knowledge of both fictional and true crime, due to his background in law and criminology. 

Fleur Hitchcock

Mae Fleur wedi gweithio fel merch siop, dynes cinio a churadur. Mae hi bellach yn gweithio fel gwerthwr llyfrau i blant. Mae ganddi ddau o blant hŷn ac mae’n byw yn ne-orllewin Lloegr.

Wedi’i disgrifio fel awdur “nofelau ias a chyffro i ddechreuwyr” gan y Sunday Times, mae ei nod yn dal i fod i gadw darllenwyr ar bigau’r draen.

Sarah Bax Horton

Sarah Bax Horton was born in Swansea and grew up in South Wales. A former civil servant and police volunteer, she is now a full-time true crime writer. Her debut book is ‘One-Armed Jack: Uncovering the real Jack the Ripper’. 

When not researching and writing, Sarah enjoys outdoor pursuits and listening to an eclectic mix of music.

 

 

Meleri Wyn James

Mae Meleri Wyn James yn olygydd llyfrau ac yn awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion. Mae ei nofel newydd, Dim Ond Un, yn ddirgelwch wedi ei lleoli ar Ynys Enlli. Mae hi’n byw yn Aberystwyth gyda’i gŵr a dau o blant ac yn rhedwraig frwd.

Matt Johnson

Retired cop Matt Johnson began writing as therapy for PTSD. His debut novel Wicked Game was shortlisted for the CWA New-Blood Dagger. No Ordinary Day, his first non-fiction title, reveals the political cover-up and truth behind the 1984 murder of his friend and colleague, WPC Yvonne Fletcher.

Beverley Jones

Yn gyn-newyddiadurwraig i bapurau newydd a’r teledu, mae Beverley Jones (B.E. Jones) yn awdur saith nofel drosedd. Cafodd ei chwechedd, Wilderness, ei throsi i gyfres deledu ar Amazon Prime, gyda Jenna Coleman yn y brif ran. 
Mae ei nofel ddiweddaraf, The Beach House, ar gael nawr. Mae’n cael ei chynrychioli gan Peter Buckman o’r Ampersand Agency, a chan Northbank Talent Management.

Philip Gwynne Jones

Awdur cyfres boblogaidd Nathan Sutherland, a leolir yn Fenis, yw Philip Gwynne Jones. Yn wreiddiol o Abertawe, mae o bellach yn byw yn Fenis gyda’i wraig Caroline a chath led-gyfeillgar, Mimi. Mae e’n mwynhau coginio, celf, cerddoriaeth glasurol a hen ffilmiau arswyd, ac mae’n gwrando ar ormod o lawer o roc blaengar yr Eidal.

Llun yr awdur © Roger Branson

Vaseem Khan

Mae Vaseem Khan yn awdur dwy gyfres drosedd a leolir yn India. Dewiswyd The Unexpected Inheritance of Inspector Chopra yn un o’r 40 nofel drosedd orau 2015-2020 gan y Sunday Times. Enillodd Midnight at Malabar House, y gyntaf yn ei gyfres a leolir ym Mumbai yn y 1950au, Dagr Hanes y CWA. Wedi’i eni yn Lloegr, mae Vaseem bellach yn Gadeirydd Crime Writers’ Association y DU.

Alison Layland 

Mae Alison Layland, awdur, golygydd a chyfieithydd, yn byw a gweithio yn y gororau. Mae hi’n awdur ddwy nofel ias a chyffro seicolegol, sef: Someone Else’s Conflict, nofel afaelgar am straeon a chanlyniadau annisgwyl rhyfel, a Riverflow, stori am ddirgelion teuluol a thyndra cymuned glòs gyda chefndir llifogydd a phrotest amgylchfydol, a ddewsiwyd yn Llyfr Cymru’r Mis yn Waterstones.

Am wybodaeth bellach, ewch i: www.alayland.uk 

James Lovegrove

Mae James Lovegrove wedi cyhoeddi dros 60 o lyfrau, gan gynnwys y gyfres sy’n cyfuno Conan Doyle a Lovecraft, The Cthulhu Casebooks. Enillodd ei stori fer, Carry the Moon in my Pocket, wobr Seilun yn Japan yn 2011 ar gyfer y stori orau wedi’i chyfieithu, ac enillodd Firefly: The Ghost Machine wobr Dragon 2020 ar gyfer y nofel orau sy’n cyd-fynd â’r cyfryngau. Mae’n cyfrannu colofnau rheolaidd o adolygiadau ffuglen i’r Financial Times ac mae’n byw yn Eastbourne.

 

Chris Lloyd

Mae Chris Lloyd yn ysgrifennu’r gyfres Eddie Giral, ditectif Ffrengig ym Mharis o dan orthrwm y Natsïaid. Enillodd llyfr cyntaf y gyfres, The Unwanted Dead, wobr Gold Crown yr HWA am y nofel hanesyddol orau, ac roedd hefyd ar restr fer Dagr Hanesyddol y CWA. Fe ddewiswyd yr ail, Paris Requiem, yn llyfr ffuglen hanesyddol orau’r Sunday Times yn 2023. Caiff Banquet of Beggars ei ryddhau ym mis Awst 2024.

Simon McCleave

Mae nofelau trosedd Simon McCleave, sy’n hanu o ogledd Cymru, wedi gwerthu miliynau. Mae ei gyfres DI Ruth Hunter, a leolir yn Eryri, wedi gwerthu dros 2 miliwn gopi a chaiff ei haddasu yn gyfres deledu cyn bo hir. Mae hefyd wedi ysgrifennu cyfres a leolir ar Ynys Môn a gyhoeddir gan Avon (Harper Collins) ac mae wrthi’n ysgrifennu nofel seicolegol ar gyfer Storm Publishing.

Brian McGilloway

Mae Brian McGilloway yn awdur sydd wedi cyrraedd brig y New York Times o un ar ddeg nofel drosedd, gan gynnwys y cyfresi dirgelwch Ben Devlin a Lucy Black. Mae ei nofel arunigol ddiweddaraf, The Empty Room, yn werthwr gorau’r Sunday Times, ac enillodd yr un gynt, The Last Crossing, glod yng nghystadleuaeth Theakston’s Old Peculier Crime Novel of the Year yn 2021.

Mae Abir Mukherjee yn awdur llwyddiannus y gyfres arobryn Wyndham & Banerjee. Fe gyfieithwyd ei nofelau i byntheg o ieithoedd ac maent wedi ennill gwobrau sy’n cynnwys Dagr Hanesyddol y CWA Dagger, y Prix du Polar Européen, a gwobr Wilbur Smith. Mae’ gyd-gyflwynydd y podlediad poblogaidd Red Hot Chilli Writers.

Llun yr awdur © Nick Tucker

Louise Mumford

Mae Louise yn gyd-gadeirydd Crime Cymru; ysbrydolodd ei methu-cysgu ei hun ei nofel gyntaf, Sleepless, a gafodd ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020 gan HarperCollins. Yn werthwr gorau yn y 50 uchaf Amazon Kindle y DU, fe’i dewiswyd yn Killer Read gan Asda yng Ngorffennaf 2021. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, The Hotel, ym mis Awst 2023, a gyrhaeddodd brig Amazon.

James Oswald

Yn awdur nofelau poblogaidd Inspector McLean, mae James hefyd wedi ysgrifennu tri llyfr am Dditectif Gwnstabl Constance Fairchild. O dan yr enw JD Oswald mae’n awdur yr epig ffantasïol The Ballad of Sir Benfro, a ysbrydolir gan chwedloniaeth Cymru a’r iaith Gymraeg. Pan nad ydi’n ysgrifennu, mae e’n magu gwartheg Ucheldirol ar ei fferm yn ngogledd-dwyrain Fife.

Llun yr awdur © Bill Waters 

 

LLwyd Owen

Fe ganwyd a magwyd Llwyd Owen yng Nghaerdydd, ac mae’r ddinas yn hollbresennol yn ei ffuglen. Ers 2006, mae wedi cyhoeddi pymtheg nofel gyda’r Lolfa, gan gynnwys cyfres drosedd Gerddi Hwyan a Ffydd Gobaith Cariad, a enillodd Lyfr y Flwyddyn yn 2007.

Cheryl Rees-Price

Cafodd Cheryl Rees-Price ei geni yng Nghaerdydd a symudodd yn blentyn ifanc i bentref bach ar gyrion y Mynydd Du, De Cymru, lle mae’n byw o hyd gyda’i gŵr a phedair cath.

Mae hi’n hoff iawn o fynd am dro ym Mannau Brycheiniog, gan anelu at raeadrau, llynnoedd ac ogofâu. Mae’r llefydd anghysbell a hardd hyn yn troi’n gefndir i’w nofelau.

Mae’r llyfrau hyn yn cynnwys y gyfres boblogaidd DI Winter Meadows a’r nofel arunigol, Blue Hollw.

Leslie Scase

Wedi’i leoli yn Sir Amwythig, mae Leslie Scase yn awdur nofelau dirgelwch Inspector Chard.

Wedi’i eni a’i addysgu yn ne Cymru, fe weithiodd Leslie mewn diwydiant lleol cyn teithio ledled y DU yn ystod gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil. Mae’n byw’n agos at y ffin, yn nhref sirol Amwythig.

Andrew Taylor

Mae Andrew Taylor wedi cyhoeddi dros 40 o nofelau, gan gynnwys gwerthwyr gorau The American Boy a The Ashes of London. Mae wedi ennill gwobrau sy’n cynnwys Goron Aur y HWA ar gyfer y nofel orau, a Dagerau Hanesyddol a Diemwnt y CWA. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres a leolir yn Llundain yn ystod yr Adferiad.

Marsali Taylor

Mae Marsali Taylor yn ysgrifennu nofelau trosedd ar sail posau a leolir yn Shetland cyfoes, sy’n troi o gwmpas morwr chwim ei meddwl Cass Lynch a DI o Inverness Gavin Macrae. Mae adolygwyr yn canmol eu plotiau deheuig, cymeriadau bywiog a lleoliad ag awyrgylch byw. Mae Marsali yn hoffi hwylio ei chwch hwyliau 8m o gwmpas ochr gorllewin hardd Shetland, drama a dysgu chwarae’r ffliwt.

Llun yr awdur © John Carolan

Sarah Todd Taylor

Fe fagwyd Sarah Todd Taylor yn Sir Efrog a Cheredigion, lle mae hi’n byw nawr. Wedi’i hysbrydoli gan flynyddoedd ar lwyfannau Cymru, fe greodd nofelau dirgelwch Max the Detective Cat gyda’u cefndir yn theatrau Llundain yn y 1920au. Mae ei llyfrau Alice Éclair yn cyfuno ysbïwriaeth a phobi o flaen cefndir Paris rhwng y rhyfeloedd yn y 1930au.

 

Sarah Ward

Mae Sarah Ward yn nofelydd trosedd sy’n ysgrifennu nofelau ias a chyffro gothig o dan yr enw Rhiannon Ward. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd The Birthday Girl, cyfrol gyntaf yn ei chyfres newydd a leolir yng Nghymru, a gafodd ei disgrifio yn y FT fel ‘Sianelu troadau Christieaidd’. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu dramâu clywedol Doctor Who. Mae Sarah yn Is-gadeirydd y CWA a Thrysorydd Crime Cymru, cydweithfa awduron Cymru, a Gŵyl Crime Cymru Festival.

Liz Webb

Mae Liz Webb wedi cyhoeddi 2 nofel: The Daughter (2022) ‘Llyfr cyntaf i ddwyn yr anadl’ Sunday Times, ‘Sy’n taro’r nodyn perffaith’ Daily Mail; a The Saved (2024). Dechreuodd fel digrifwraig stand-yp cyn dod yn gynhyrchydd Drama Radio’r BBC, nes i Cofid roi taw ar waith recordio a hithau’n trio at ysgrifennu llyfrau.

GB Williams

Mae GB Williams yn arbenigo mewn nofelau trosedd cymhleth a chyflym. Wedi’i geni a’i magu yn Nghaint, symudodd GB i Dde Cymru ac ymgartrefodd yno. Mae hi bellach yn gweithio fel golygydd ac awdur ar ei liwt ei hun ac yn byw gyda’i theulu a chath fwyaf awdurdodus yn y byd. Mae hi’n casáu pob un llun a dynnir ohoni. Darganfyddwch fwy yn www.gailbwilliams.co.uk.

GJ Williams

Mae G.J. Williams yn Gymraes a fagwyd yn Lloegr.  Fe dyfodd yng Ngwlad yr Haf mewn aelwyd iaith- Gymraeg, wedi’i hamgylchynu gan gariad tuag at hanes, antur a darllen.

Mae hi bellach yn rhannu’i hamser rhwng Gwlad yr Haf a Llundain, ac yn aml fe’i gwelir yn ysgrifennu ar drên gyda chath biwis a bwced o de wrth ei hochr. Mae ganddi bum nofel gyfan ar ei chyfrifiadur, i gyd yn ymwneud â hanes a chymeriadau Cymru. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Conjuror’s Apprentice, trwy Red Door Books.