GŴyl lenyddiaeth drosedd ryngwladol gyntaf Cymru

#CrimeCymru

Mae Gŵyl Crime Cymru Festival yn Sefydliad Corfforedig Elusennol

Rhif Cof. 1196078.

Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru

CROESO I Aberystwyth,

CARTREF GŴYL CRIME CYMRU FESTIVAL.

Gŵyl ryngwladol llenyddiaeth drosedd gyntaf yng Nghymru yw Gŵyl CRIME CYMRU Festival, sy’n dathlu ysgrifennu trosedd yn ei amrywiaeth o ffurfiau – o ffuglen a ffeithiol hyd at raglenni teledu a ffilmiau.

Ein bwriad yw rhoi i fynychwyr yr ŵyl y cyfle i gwrdd â phobl dalentog yn y maes o bob cwr o’r byd, ac i gymdeithasu gyda nhw. Dewch i weld y sêr, i ddarganfod awduron newydd – ac i gefnogi talent o Gymru.

Cynhwlir yr ŵyl ar 21-23 Ebrill 2023.

 

PAM ABERYSTWYTH?

Yr eiliad y byddwch yn camu oddi ar y trên neu’n parcio’ch car, byddwch yn deall yn llwyr. Mae Aber, fel y mae pobl y fro’n ei alw, yn dref lan-mor sy’n ddeniadol a heb ei difetha, ac sy’n estyn croeso cynnes iawn i ymwelwyr.

Mae’r dref yn wynebu Môr Iwerddon o ganol glannau creigiog Ceredigion. Mae’r promenâd yn estyn dros filltir oddi wrth bier hynaf Cymru hyd at Reilffordd y Graig, ffwniciwlar hiraf Prydain. Mae Aberystwyth hefyd yn baradwys i fwydgarwyr, gyda gwledd o ddewis i bob blas ac o fewn cyrraedd pawb.

Mae’n lle delfrydol i ŵyl. Mae’n lle delfrydol i ymlacio a mwynhau.

darganfyddwch crime Cymru

YR ŴYL

Dechreuodd Gŵyl CRIME CYMRU Festival gyda digwyddiad rhithwir yn Ebrill 2021, gyda 3300 o bobl yn cofrestru i wylio’r sesiynau arlein. Cafodd y rhain eu recordio ar YouTube, ac erbyn canol mis Mai roedden nhw wedi’u gwylio yn fwy na 4500 gwaith. Gallwch weld nifer ohonynt o hyd trwy glicio ar dab yr Ŵyl 2021. Roedd y bwriad gwreiddiol i gynnal ein gŵyl byd-real gyntaf yn 2022, ond mae COVID wedi ein gorfodi i ail-feddwl, felly fe wnaethom ni drefnu gŵyl arlein fywiog a chynhwysol, gan ohirio’r digwyddiad yn y cnawd i 2023. O hynny ymlaen bydd y gwyliau – go-iawn a rhithwir – yn digwydd bob yn ail flwyddyn.

Mae’n hawdd archebu tocynnau ac mae’r gwesteion yn gyffrous.

Dewch i ymuno â ni.

Diolch yn fawr!

CEFNOGAETH I’R ŴYL

Congratulations to Crime Cymru on the launch of Wales’ first international crime literature festival

Michael Sheen

Mae Llenyddiaeth Cymru wrth ei bodd i bartneru Crime Cymru ar gyfer yr ŵyl hon. Mae ffuglen drosedd Cymru eisoes â chynulleidfa byd-eang gydag apêl fawr, ac mae lleoli Gŵyl Crime Cymru Festival yn Aberystwyth yn cynnig cyfle perffaith i’r boblogrwydd hwn barhau i dyfu.

Dr Bronwen Price

Llenyddiaeth Cymru