Sut mae cyrraedd Aberystwyth

Mae’r daith ei hun yn rhan o hwyl dod i Ŵyl Lenyddiaeth Drosedd gyntaf yng Nghymru. P’un ai ffyrdd, rheilffyrdd neu awyr, bydd gennych gyfle gwych i fwynhau harddwch garw tirlun Cymru wrth ichi deithio tuag ein harfordir gorllewinol. 

Bydd teithiau ein mynychwyr yn dechrau mewn llawer o fannau cychwyn gwahanol, felly dyma gyfarwyddiadau cyffredinol i fod o gymorth pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddilyn. Yn syml, y cyngor gorau yw – gwnewch gynlluniau ymlaen llaw. 

Gyrru

Sylwch fod dim ond un draffordd yng Nghymru, sef yr M4 yn y de. Fodd bynnag, mae nifer o ffyrdd hyfryd i’ch arwain trwy dirluniau syfrdanol o hardd. Oherwydd yr amrywiaeth o ffyrdd, mae’n well i yrwyr ddewis eu ffyrdd eu hunain, gan ddefnyddio map neu system llywio â lloeren i sicrhau’r siwrne orau i chi. Cynghorwn eich bod chi’n cynllunio ymlaen llaw, gan neilltuo digon o amser i yrru’n ofalus ac yn ddiogel – bydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i deithwyr fwynhau’r golygfeydd. 

Ar hyd yr arfordir gorllewinol, gan fynd o Gaergybi yn y gogledd neu o Abergwaun yn y de, mae’r A487 (mewn rhannau hefyd yr A470) yn ffordd hyfryd sy’n dilyn glannau’r môr ac yn arwain i ganol Aberystwyth. 

Gyda’r coets

Dyma linellau TrawsCymru <https://www.trawscymru.info/> sy’n cysylltu ag Aberystwyth. Chwiliwch am y T1 neu T1C o Gaerfyrddin, y T2 o Fangor, neu’r T5 o Abergwaun. Mae cwmnïau bysiau eraill hefyd yn darparu gwasanaethau. 

Gyda’r trên

Cynlluniwch eich taith ar Transport for Wales, neu unrhyw werthwr tocynnau arall yn y DU; bydd y rhan fwyaf o siwrneiau yn mynd trwy Amwythig lle byddwch yn newid trên am Aberystwyth. Mae Gorsaf Aberystwyth yng nghanol y dref, ac mae tacsis fel arfer ar gael i fynd â chi i’ch llety. 

Dros y môr

Y ddau brif borthladdoedd yw Caergybi ar Ynys Môn, ac Abergwaun yn Sir Benfro. Mae nifer o gwmnïau yn rhedeg fferïau i’r llefydd hyn, gan ddibynnu ar eich man cychwyn. 

Gyda’r awyren

Prif faes awyr Cymru yw Caerdydd, one mae Bryste, Birmingham, Manceinion a Lerpwl hefyd yn gyfleus. Wrth gwrs gallwch chi gyrraedd y wlad yn hawdd hefyd trwy feysydd awyr Llundain.