Ynglŷn ag Aberystwyth

ABERYSTWYTH – CARTREF GŴYL CRIME CYMRU festival.

‘Aber’ – fel mae pobl gynhenid ac ymwelwyr yn cyfeirio ati – yn dref glan môr ddeniadol ar arfordir gorllewinol Cymru sy’n edrych dros Fôr Iwerddon.

Yn hawlio’i lle fel prifddinas ddiwylliannol Cymru, yn ogystal â bod yn gartref i Brifysgol Aberystwyth a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth, mae’n ganolbwynt yr iaith Gymraeg a diwylliant cyfoes Cymru.

Rydym am ichi ddod i Aber i brofi gŵyl Lên Drosedd gyntaf erioed yng Nghymru ond yn ystod eich ymweliad, byddwch yn darganfod yn fuan pa mor hyfryd yw’r dref i’w chrwydro a’i mwynhau.

Mae Canolfan Y Celfyddydau yn cynnig rhaglen eang o ddigwyddiadau celfyddydol, o ddrama, dawns a cherddoriaeth i’r celfyddydau gweledol, ffilm a chelfyddydau cymunedol. Cydnabyddir y ganolfan fel canolfan genedlaethol sy’n hybu datblygiad y celfyddydau.

Yn ystod eich ymweliad, beth am ymweld ag amgueddfa leol, neu ddarganfod Llyfrgell Genedlaethol Cymru? Neu mwynhewch gerdded ar hyd traeth poblogaidd a glân Aber, lle gallwch werthfawrogi’r golygfeydd, y môr neu hyd yn oed ymweld â’r castell.

Fel y byddwch yn ei ddisgwyl mewn tref glan môr, mae llawer o lefydd i fwyta ac yfed, ac mae nifer yn arbenigo mewn bwyd môr. Ai caffi clyd, profiad ciniawa safon uchaf neu – i’r sawl anturus – bwyty gyda golygfa o dop y clogwyn, cewch hyd i rywle at eich dant.

A phan ddaw at ddewis llety mae Aber yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae hen ddigon o ddewis, gyda phrisiau mewn cyrraedd pawb.