Pan gaiff Gŵyl Crime Cymru Festival ei chynnal yn fyw, bydd llawer o gyfleoedd amrywiol i gyfrannu. Byddwn yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’r stiwardio, cyswllt awduron, mannau gwerthu llyfrau a rolau eraill – rhai dyn ni heb feddwl amdanyn nhw eto! Cysylltwch ag ysgrifennydd ein gŵyl trwy’r ffurflen isod os hoffech fod ar restr o bobl y byddwn yn cysylltu â nhw yn nes at yr amser.