Mae Crime Cymru yn ffrwyth meddwl Alis Hawkins, a gafodd y syniad yn 2016 o ddod ag awduron trosedd Cymru ynghyd i ffurfio grŵp i gefnogi ein gilydd. Ond ar ôl trafodaeth gyda’i chyd-awduron trosedd Matt Johnson a Rosie Claverton, gwelodd Crime Cymru olau dydd yn 2017 gyda pherwyl llawer ehangach – nid dim ond i gefnogi ein gilydd, ond hefyd i feithrin awduron trosedd newydd ac i fynd â sgrifennu trosedd Cymru i bedwar ban byd! O’r cyfarfod hwnnw ymlaen, tyfodd y nifer o aelodau’n gyson, a bellach mae gan y grŵp 40 o aelodau cyhoeddedig a dros 30 o aelodau cyswllt (yn 2022).
Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r grŵp, ac i weld manylion o’n haelodau, eu gwaith a blog y gydweithfa, ewch i wefan Crime Cymru.