Helo a diolch am eich diddordeb yng Ngŵyl CRIME CYMRU Festival. Edrychwn ymlaen yn arw at eich croesawu yn Aberystwyth ym mis Ebrill.
Hoffwn i’r ŵyl hon fod y gorau a all fod, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pawb yn cael profiad rhagorol yn nhref hyfryd Aberystwyth.
Wrth gwrs, fe fyddwch chi, ymwelwyr i’r ŵyl, yn rhan fawr i’r llwyddiant hwn, a gofynnwn ichi ystyried y canlynol er mwyn sicrhau inni i gyd gael y profiad gorau posibl.
Wrth ichi fynd i ddigwyddiadau, sylwch os gwelwch yn dda y byddwn yn agor y drysau pum munud cyn amser dechrau’r digwyddiad; dyw’r lleoliadau ddim yn fawr iawn, ac rydym yn brin o le aros, felly byddwch yn ystyriol o bobl eraill wrth ddisgwyl. Efallai bydd rhaid inni ofyn ichi aros y tu allan, ond dim ond os bydd angen; rydym yn gobeithio’n daer am dywydd braf.
Yn y lleoliadau, bydd paratoi eich tocynnau at eu sganio yn helpu lleihau unrhyw oedi. Tu mewn i’r ystafell, bydd rhai seddi wedi’u cadw, fel arfer ar y rhes flaen. Diolch am ufuddhau i’r nodiadau hyn.
Bydd system unffordd ar waith yn yr amgueddfa i alluogi pobl i symud i mewn ac allan o’r neuadd mor rhwydd ag y bo modd. Mae dim ond 15 munud rhwng sesiynau, felly gofynnwn am eich help i rwyddhau’r llif.
Fe ddylech fynd i mewn i ddigwyddiadau drwy’r Ganolfan Groeso, ac allan gan ddefnyddio allanfa’r amgueddfa ar Stryd y Baddon. Fe ddangosir y ffordd gan arwyddbyst, a bydd stiwardiaid wrth law i helpu. Mae grisiau i ddrws Stryd y Baddon, felly mae yna drefniadau amgen i bobl ag anawsterau symudedd.
Os oes gennych chi anawsterau symudedd, mae lifftiau yn yr amgueddfa a’r llyfrgell at eich gwasanaeth. Byddwn yn hwyluso mynd i mewn ac allan i’r digwyddiadau’r gorau gallwn. Rhowch wybod i’r stiwardiaid am unrhyw anghenion penodol sydd gennych chi.
Mae’n rhan o’n polisi amgylcheddol i greu cyn lleied o wastraff ag sy’n bosibl, felly pan fyddwch yn gadael y digwyddiadau, a wnewch chi fynd ag unrhyw sbwriel gyda chi a chael gwared ohono’n gyfrifol. Ni fydd biniau sbwriel yn y lleoliadau.
Ar ôl pob digwyddiad bydd sesiynau llofnodi llyfrau yn siop sydyn Waterstones yng Ngaleri’r amgueddfa, lle bydd llyfrau ar werth a chyfle ichi gael eu llofnodi gan yr awduron. Ar gyfer digwyddiadau yn yr amgueddfa, bydd yr arwyddbyst i’r allanfa yn eich arwain heibio i’r Galeri. Ar ôl digwyddiadau yn y llyfrgell, cynhelir y gwerthu a llofnodi llyfrau yn yr amgueddfa hefyd, er mwyn lleihau sŵn ac aflonyddu yn y llyfrgell. Ar ôl i’r digwyddiadau yma, ewch ar hyd Stryd y Frenhines i Stryd y Baddon a thrwy ddrws cefn yr amgueddfa, lle bydd llyfrau ar gael, gyda’r awduron i’w llofnodi a sgwrsio gyda chi.
Hyderwn y byddwch chi’n gwrtais ac yn ystyriol i ddefnyddwyr eraill y lleoliadau, ac i bobl Aberystwyth yn gyffredinol. Deallwn fod gwyliau/digwyddiadau eraill yn y dref ar yr un penwythnos, felly mae’n siŵr o fod yn awyrgylch bywiog – gobeithiwn y bydd yn awyrgylch hapus, glan a chynhwysol hefyd.