Unwaith bod Crime Cymru wedi’i sefydlu, sylweddolodd aelodau’r grŵp bod tua dwsin o wyliau ffuglen drosedd yn Lloegr, pump yn yr Alban ac un yng Ngogledd Iwerddon, ond yma yng Nghymru, gyda’i threftadaeth greadigol a’i wyliau llenyddol amrywiol, doedd yna’r un ŵyl benodol ar gyfer ffuglen drosedd. Pam, tybed?
Ac wedyn, dyma’r plot yn cymhlethu…
Cafodd Matt ac Alis wahoddiad i ymddangos mewn Wales Week Berkshire, lle gwrddon nhw â Nellie Williams, sydd hefyd y tu ôl i’r digwyddiad tra llwyddiannus, Sioe Glanusk. Ymunodd Matt â thaith lyfrau a drefnwyd gan Dr Jacky Collins, sy’n adnabyddus fel brenhines ffuglen drosedd a sefydlydd gŵyl Newcastle Noir. Gyda’r cymeriadau hyn yn eu lle, ffurfiwyd pwyllgor gwaith i ystyried gŵyl Crime Cymru. Daeth trafodaethau’n gynlluniau. Wedyn, pan gwrddodd Matt ac Alis â Lyndy Cooke, cyn-drefnydd Gŵyl y Gelli, roedd yn amlwg bod y cynllwynwyr i gyd yn ei lle.
Ond yn ogystal â bod yn uchelgeisiol, roedd y pwyllgor gwaith â’u traed ar y ddaear. Cyn yr ŵyl ‘go-iawn’ yn 2022, penderfynom y byddwn yn cynnal Virtual CRIME CYMRU Digidol yn 2021. Yn ogystal â chyflwyno Crime Cymru i gynulleidfa ehangach ar draws y DU a’r byd i gyd, darparodd yr ŵyl ar-lein hon hefyd gyfle i ymarfer a pharatoi ar gyfer Gŵyl CRIME CYMRU Festival gyntaf yn 2022.
Gyda thro annisgwyl, fodd bynnag, mae pethau wedi gorfod newid.
Dim ond wythnosau yn ôl, roeddwn yn hyderus y gallwn gynnal sioe ardderchog ar gyfer Gŵyl CRIME CYMRU Festival, ond rydym edifar am ddweud bod dyfodiad Omicron wedi newid popeth. Mae wedi dangos inni’r effaith y mae pob amrywiolyn newydd yn ei gael ar y wlad o hyd.
Wrth siarad â’r wasg yn ddiweddar, meddai prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton bod rhaid i Gymru ymateb yn gyflym i amrywiolion Cofid newydd wrth iddynt godi. Er y bydd effeithiau llawn Omicron wedi cyrraedd eu hanterth a dechrau cilio erbyn diwedd mis Ebrill, mae’n bosib y gallai amrywiolyn newydd gael effaith yr un mor sylweddol ar ddiogelwch y cyhoedd.
O reidrwydd, mae blaenoriaeth bwysicaf yr ŵyl iechyd a diogelwch pawb: ein siaradwyr a mynychwyr yr ŵyl yn ogystal â phobl Aberystwyth a’r cyffiniau. Mae pawb wedi gweld effeithiau’r ‘pingdemig’ ar fusnesau, y gwasanaeth iechyd ac addysg pobl ifanc; ni allai Crime Cymru, gyda chydwybod lân, beryglu’r pethau hynny.
Yn ogystal, rydym bellach wedi cael manylion wedi’u diweddaru o ganllawiau iechyd a diogelu ar gyfer ein dewis leoliad i Ŵyl CRIME CYMRU Festival 2022. Mae’r niferoedd cyfyngedig sydd eu hangen i gydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol yn golygu cynulleidfaoedd cryn dipyn yn llai, gan effeithio ar ein model busnes. Yn bwysicach byth, ni fyddwn yn gallu cynnig cynulleidfa deilwng i’n hawduron gwadd.
Felly, yn unol â dulliau ymladd trosedd ein harwyr ni, rydym wedi wynebu’r dewis anodd i ddilyn ffordd newydd. Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn i redeg Gŵyl CRIME CYMRU Festival ar lwyfan digidol unwaith eto eleni, ac i edrych ymlaen at ŵyl fywiog a chynhwysol yn Aberystwyth yn 2023. Ni wyddwn yn union eto sut olwg fydd ar ŵyl ar-lein 2022; rydym yn ystyried cynnal paneli gyda’r nos o Nos Fercher 27 i Nos Wener 30 o Ebrill, a Nos Lun 2 i Nos Fercher 4 o Fai, gan gynnig dau ddigwyddiad y noswaith, ond mae’r rhaglen yn dal i fod dros dro ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn bwriadu o hyd cefnogi a rhoi cyhoeddusrwydd i’n haelodau a’u gwaith, ac rydym yn meddwl sut mae gwneud hynny orau, felly byddwn mewn cysylltiad gyda newyddion mwy positif unwaith bod ni’n gwybod yn gliriach.
Hoffai pwyllgor gwaith yr ŵyl fachu yn y cyfle i ddiolch i chi am eich cefnogaeth o’n hamcanion, ein cymuned a’n gŵyl, ac er bod ni’n drist iawn i orfod gwneud y newid hwn, rydym wrth gwrs yr un mor frwdfrydig i gefnogi ysgrifennu trosedd, darllenwyr trosedd ac awduron trosedd.