Gŵyl CRIME CYMRU Festival 2022 Yn Aberystwyth

Bydd Gŵyl CRIME CYMRU Festival yn digwydd rhwng 29 o Ebrill i 2 o Fai 2022.

Gŵyl banc yw’r penwythnos hwnnw, felly pa gyfle gwell am wyliau hyfryd?

Gan nad yw lleoliadau, paneli nac amserau ddim wedi’u cadarnhau eto, fydd tocynnau ddim ar gael ar hyn o bryd. Ond yr hyn gallwn ni addo yw amrywiaeth eang o awduron a sêr teledu o fydoedd llenyddol ffuglen drosedd a throsedd go-iawn. I sicrhau rhybudd cynnar, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.

Bydd gwesteion yn cynnwys Lee ac Andrew Child (a fydd yn trafod eu partneriaeth i ysgrifennu nofelau Jack Reacher), enillydd wobr Diamond Dagger y CWA Martin Edwards, Ann Cleeves, Peter James, Clare Mackintosh a Mari Hannah. Bydd Andrea Byrne o Newyddion ITV yn arwain tri o baneli trosedd go-iawn, gan gynnwys cyfweliad â ditectif wedi ymddeol Steve Wilkins a chyd-newyddiadurwr Jonathan Hill i gael mewnolwg i Lofruddiaethau Penfro. Bydd Matthew Hall (enillydd BAFTA Cymru) ac Aneirin Hughes (Tom) o ‘Un Bore Mercher’ yn datgelu beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni. Gobeithio y bydd Fflur Dafydd a Roger Williams yn ymuno â Dinah Jones i drafod ffuglen drosedd Gymraeg.

Unwaith eto, bydd pob panel yn cynnwys o leiaf un aelod o Crime Cymru. Wedi’r cyfan, prif nod yr ŵyl hon yw dathlu a’ch cyflwyno chi i dalent Cymru.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi.

#CrimeCymru22