Mae’r polisi hwn yn esbonio pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol ynglŷn â’r bobl sy’n ymweld â’n gwefan, sut rydym yn ei defnyddio, yr amodau sy’n rheoli sut y gallwn ei datgelu i bobl eraill, a sut rydym yn ei diogelu.
Mae’n bosibl y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus efo unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn cytuno i amodau’r Polisi hwn.
Pwy ydym ni?
Mae Gŵyl Crime Cymru Festival (GCCF) yn rhan o Crime Cymru, Cydweithfa Awduron Cymru. Ffurfiwyd Crime Cymru yn 2016, a daeth syniad o’r ŵyl i fod yn 2019.
GCCF yw’r unig berchennog yr wybodaeth a gesglir ar y wefan hon. Ni fyddwn yn gwerthu, rhannu na rhentu’r wybodaeth hon i eraill mewn unrhyw ffordd sy’n wahanol i beth a ddisgrifir yn y ddogfen hon. Bydd y polisïau hyn yn effeithio dim ond ar y tudalennau we, cylchlythyron, byrddau trafod a rhestrau newyddion dewisol y mae GCCF yn meddu arnynt ac yn eu gweithredu.
Sut rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch?
Rydym yn cael gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, er enghraifft pan fyddwch yn prynu tocynnau, yn tanysgrifio i un o’n gwasanaethau, yn cysylltu â ni ynglŷn â’n cynhyrchion, yn rhoi rhodd, neu os byddwch yn cofrestru i dderbyn un o’n cylchlythyron e-bost.
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu oddi wrthoch?
Gall yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad ebost, eich cyfeiriad IP, a gwybodaeth am y tudalennau y byddwch yn ymweld â nhw, a phryd. Os byddwch yn prynu rhywbeth oddi wrthym, fyddwn ni ddim yn cadw manylion eich cerdyn; caiff y rheiny eu casglu gan ein prosesyddion taliadau trydydd-parti, sy’n arbenigo mewn casglu a phrosesu trafodiadau cardiau credyd/debyd yn ddiogel. Nid yw GCCF yn storio unrhyw fanylion cerdyn credyd neu fanc ar ein gwefan.
Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth:
- i brosesu archebion rydych wedi anfon;
- i anfon cyfathrebiadau rydych wedi gofyn amdanynt;
- i brosesu rhodd oddi wrthoch;
- i greu tanysgrifiad i wasanaeth rydym yn ei darparu;
- i gyflawni ein rhwymedigaethau sy’n codi o unrhyw gytundebau a wneir rhyngoch chi a rhyngon ni;
- i ddelio â cheisiadau mewn cystadleuaeth;
- i ofyn am eich barn neu’ch sylwadau ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu;
- i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau i’n gwasanaethau;
- i brosesu cais am swydd;
- ar gyfer ymchwil marchnata, monitro mewnol ac archwilio traffig. Caiff yr wybodaeth hon ei harchwilio dim ond yn gydgasgledig;
- i gynnig cynnwys a ellir ei addasu i’r defnyddiwr.
Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw gwybodaeth bersonol yn rheolaidd. Mae’n angenrheidiol yn gyfreithiol i ni gadw rhai mathau o wybodaeth er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol. Byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol yn ein systemau cyn belled ag y bydd ei angen ar gyfer y weithred dan sylw, neu am y cyfnod a ddiffinnir mewn unrhyw gytundeb perthnasol rhyngom.
Pwy sy’n gallu gweld eich gwybodaeth?
Ni fyddwn yn gwerthu na rhentu eich gwybodaeth i drydydd partïon. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon at ddibenion marchnata.
Cyflenwyr trydydd-parti a darparwyr gwasanaethau
Bydd GCCF yn pasio rhywfaint o wybodaeth bersonol adnabyddadwy ymlaen i gyflenwyr trydydd-parti os bydd yn angenrheidiol er mwyn cwblhau trafodiad masnachol neu gais. Fodd bynnag, bydd GCCF yn gwneud ei orau i basio ymlaen dim ond y lleiafswm posibl o wybodaeth sydd ei angen i gwblhau’r trafodiad masnachol neu’r cais.
Ystadegau a hysbysebion Gall GCCF ddarparu ystadegau i hysbysebwyr ac/neu gyflenwyr trydydd-parti. Darperir yr wybodaeth hon dim ond mewn ffurf gydgasgledig, fel na all ei chysylltu gyda defnyddwyr unigol na’i defnyddio i’w hadnabod.
Cyfreithiol
Bydd GCCF yn datgelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy pan ofynnir ân hyn yn gyfreithiol, neu yn y cred didwyll bod y weithred honno’n angenrheidiol, er mwyn:
- Cydymffurfio â gorchmynion y gyfraith neu gydymffurfio â phroses gyfreithiol a gyflwynir iddo;
- Diogelu neu amddiffyn hawliau neu eiddo GCCF, neu ymwelwyr i wefan GCCF;
- Adnabod pobl sydd o bosibl yn torri’r gyfraith, neu’n mynd yn erbyn rhybudd cyfreithiol neu hawliau trydydd partïon.
- Cydweithio gydag ymchwiliadau i mewn i weithgareddau anghyfreithlon honedig.
Dolenni i wefannau eraill
Gall gwefan GCCF gynnwys dolenni i wefannau eraill.
Mae’r gwefannau hyn y tu allan o reolaeth GCCF ac mae’r defnyddiwr yn ddarostyngedig i bolisïau preifatrwydd y gwefannau hyn. Er bod GCCF yn ymdrechu i ddiogelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a gesglir gan ddefnyddwyr y wefan, ni allwn sicrhau diogelwch gwybodaeth breifat a ddatgelir ar-lein i wefannau a gysylltir trwy ddolen.
Diogelwch
Mae GCCF yn dra gofalus i sicrhau diogelu trosglwyddiadau data o gyfrifiadur y defnyddiwr i’n gweinyddion a gwybodaeth wedi’i storio. Lle caiff gwybodaeth sensitif fel manylion cerdyn credyd neu wybodaeth ariannol ei throsglwyddo, gwneir hyn gan ddefnyddio amgryptiad SSL. Diogelir mynediad at wybodaeth wedi’i storio gyda chyfrinair, a gwneir pob ymdrech i sicrhau mai dim ond personél GCCF a thrydydd partïon a ymddiriedir ynddynt (datblygwyr y wefan a’r Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd) yr ydym yn eu hawdurdodi yn gwybod y cyfrineiriau hyn.
Yn anffodus, nid oes unrhyw drawsyriad data neu wybodaeth wedi’i storio yn hollol ddiogel. Felly, tra bydd GCCF yn ymdrechu i ddiogelu gwybodaeth defnyddwyr cyn belled â phosibl, ni allwn sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth y mae’r defnyddiwr yn ei thrawsyrru atom.
Beth yw cwcis a sut rydym yn eu defnyddio?
Fel llawer o wefannau eraill, mae gwefan GCCF yn defnyddio cwcis.
Mae ‘cwcis’ yn ddarnau bach o wybodaeth a anfonir gan sefydliad i’ch cyfrifiadur lle gaiff ei storio, i alluogi i’r wefan honno eich adnabod pryd bynnag y byddwch yn ymweld. Maent yn casglu data ystadegol ynglŷn ag amledd a phatrymau eich pori, ac nid ydynt yn eich adnabod fel unigolyn. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis i storio eich dewis gwlad. Mae hyn yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell a mwy personol.
Mae gan ddefnyddwyr y dewis i dderbyn neu wrthod cwcis trwy newid gosodiadau eu porwr. Defnyddir cwcis i gyflwyno cynnwys personol i ddefnyddwyr trwy storio dewisiadau’r defnyddiwr. Ni chaiff wybodaeth sensitif fel cyfrineiriau na manylion cerdyn credyd eu storio ar cwcis a osodir ar system y defnyddiwr gan wefan GCCF. Am wybodaeth bellach ynglŷn â chwcis, ewch i www.allaboutcookies.com
Eich dewisiadau chi
Mae gennych yr hawl i gael cywiro, prosesu neu ddileu eich data. Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl a gallwch ddatdanysgrifio o ohebiaeth GCCF unrhyw amser.
Ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata trwy ebost, ffôn neu neges destun oni bai eich bod wedi caniatáu hyn. Ni fyddwn yn cysylltu â chi trwy’r post at ddibenion marchnata os byddwch wedi nodi nad ydych am gael cyswllt o’r fath. Gellwch newid eich dewisiadau marchnata unrhyw bryd trwy ddatdanysgrifio yn y cylchlythyr ebost, neu drwy gysylltu â ni trwy ebost: : TBC
Gwybodaeth bellach
Y Swyddog Data ar gyfer GCCF yw…… Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio a phrosesu ein data, neu os hoffech gwyno am sut mae eich data wedi cael ei defnyddio, cysylltwch â GCCF.