Croeso i Ŵyl Crime Cymru Festival 2025!
A.A. Abbott
Dewisodd A.A. Abbott ei ffugenw er mwyn bachu’r lle blaenaf ar eich silff llyfrau. Mae hi’n ateb hefyd i Helen, ac mae’n ysgrifennu nofelau seicolegol am ferched yn dod o hyd i gryfder wrth wynebu perygl. Mae hi’n cyhoeddi ei llyfrau mewn amrywiaeth o fformatiau, gan gynnys llyfrau clywedol, e-lyfrau, Kindle Unlimited, clawr caled, clawr meddal, print bras a ffont dyslecsia back, paperback, large print and dyslexia-friendly Lexend font.

Ben Aaronovitch
Wedi’i eni a’i fagu yn Llundain, cafodd Ben Aaronovitch blentyndod didrugaredd o ddiflas, yn ddigon i yrru rhywun i yfed neu i ddarllen Ffuglen Wyddonol. Profodd yr olaf yn ddefnyddiol ar ddechrau ei yrfa pan ysgrifennodd ar gyfer Dr Who, Casualty, ac opera sebon rhatach yn y byd erioed – Jupiter Moon. Roedd nofel gyntaf y gyfres Rivers of London yn llwyddiant aruthrol, ac felly arhosodd braidd ddim mwy na phum munud cyn rhoi’r gorau i’w gwaith dydd er mwyn y sefyllfa ddedwydd o fod yn awdur llawn-amser. Mae’n byw o hyd yn y ddinas y mae’n ei galw’n wylaidd yn ‘brifddinas y byd’, ac mae dweud y bydd yn ei gadael pan fyddent yn tynnu Llundain o fysedd oer ei gorff marw. Mae e eisoes yn gweithio’n galed ar nofel nesaf Peter Grant, gan anwybyddu’r gemau cyfrifiadurol – wir-yr.

Myfanwy Alexander
Mae Myfanwy yn nofelydd, awdur o gyfres o 5 nofel amdan Arolygydd Daf Dafis o Heddlu Dyfed Powys. Fydd ei nofel gomig ‘Cath Benthyg,’ yn ei chyhoeddi yng Ngorffennaf 2025, efo antur newydd i Daf yn dod yn fuan. Mae hi’n aelod o dîm Cymru ar ‘Round Britain Quiz’ ar Radio 4 ac, mwy na ddim, yn fam i’r chwech merched gorau yn y byd.

Heidi Amsinck
Wedi’i geni yn Copenhagen, mae Heidi Amsinck bellach yn byw yn Llundain. Yn newyddiadurwraig ac yn gyn-ohebydd tramor, mae hi’n awdur arobryn pedair nofel drosedd yng nghyfres Jensenr, wedi’u lleoli yn ei mamwlad, ynghyd â nifer o straeon byrion arswyd ar gyfer BBC Radio 4.
Llun yr awdur © Lea Meilandt

Graham Bartlett
Yn gyn-Brif Uwcharolygydd, ysgrifenodd Graham Bartlett, ar y cyd gyda Peter James, Death Comes Knocking a Babes in the Wood. Ar ei ben ei hun, mae’n awdur nofealu Prif Uwcharolygydd Jo Howe novels, Bad for Good, Force of Hate a City on Fire. Mae Graham yn cynghori a hyfforddi nifer fawr o awduron a sgriptwyr teledu ar sut i greu dilysrwydd yn eu gwaitrh.
Llun yr awdur © Helen Scott

Penny Batchelor
Mae Penny yn werthwr gorau Amazon gyda’i ddwy nofel ias a chyffro My Perfect Sister a Her New Best Friend, a gyhoeddir gan Embla Books. Caiff ei thrydedd nofel ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2024. Mae Penny yn gyd-sefydlydd a beirniad yr ADCI Literary Prize, sy’n gwobrwyo ffuglen i oedolion gan awdur ag anabledd/salwch cronig.

Mark Billingham
Yn hanu o Birmingham, mae Mark wedi gweithio fel actor, sgriptiwr teledu a digrifwr stand-yp. Mae ei gyfres am dditectif o Lundain, Tom Thorne yn parhau ochr yn ochr â nifer o nofelau arunigol. Mae Mark hefyd yn cyfrannnu’n rheolaid ar y radio a’r teledu, ac mae’n aelod o ‘Fun Lovin’ Crime Writers’, criw o awduron trosedd poblogaidd a berfformiodd yng Ngŵyl Glastonbury 2019.
Am ragor o wyboaeth, ewch i: uk.markbillingham.com

Ann Bloxwich
Mae Ann yn awdur trosedd bach a thatŵog, gyda phen llawn bwriadau llofruddiol a chariad dwfn tuag at gathod, cerddoriaeth roc, te a chardiganau. Mae hi wedi gweithio fel Oompa Loompa mewn ffatri siocled, a bu ganddi gwmni hyrwyddo a oedd yn cynnwys stripwyr gwryw a dragcwins.

Paul Burke
Mae Paul Burke yn ysgrifennu adolygiadau ac erthyglau ar gyfer Crime Time, Crime Fiction Lover a Rhwydwaith Lenyddiaeth Ewrop. Mae e’n olygydd a chyflwynydd y podlediad Crime Time FM ac yn feirniad Dagr Hanes y CWA. Cafodd llyfr cyntaf Paul, An Encyclopedia of Spy Fiction, ei gyhoeddi ym mis Mawrth, 2025.

Jacky Collins
Mae Dr Jacky Collins, a adwaenir fel Dr Noir, yn ddarlithydd Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Stirling. Ym 2014, sefydlodd Jacky yr Ŵyl Ffuglen Drosedd Ryngwladol, Newcastle Noir. Yn frwd dros ffuglen drosedd wed’i chyfieithu, mae’r ŵyl yn aml yn croesawu awduron o’r gwledydd Nordic, o’r Almaen, Ffrainc ac, yn ddiweddar, Rwmania.

Marie Anne Cope
Mae Marie Anne Cope yn awdur arobryn o lyfrau arswyd goruwchnaturiol, nofelau ias a chyffro a ffuglen cyfoes. Mae ei gwaith yn cynnwys y gyfres Bonds (goruwchnaturiol tywyll), y gyfres Ellie Lawrence (nofelau trosedd gyda thinc goruwchnaturiol), a’r gyfres Potters Hole (nofelau rhamant cyfoes). O’i chartref yng ngogledd Cymru, mae hi’n saernïo straeon gafaelgar sy’n aros efo’r darllennydd ymhell ar ôl troi’r dudalen olaf.

Fflur Dafydd
Mae Fflur Dafydd yn nofelydd, sgriptwraig a cherddor arobryn. Mae hi wedi cyhoeddi amrywiaeth o ffuglen a gwaith ffeithiol yn ogystal â chreu dros 50 awr o ddrama oriau-brig ar gyfer S4C. Mae ei nofelau’n cynnwys nofel boblogaidd Gymraeg Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009), a gafodd ei haddasu i’r Saesneg fel The Library Suicides (Hodder & Stoughton, 2023).

Ant Evans
Yn frodor o Harlech, ar arfordir Meirionnydd, mae Ant Evans bellach yn byw yng Nghaernarfon, lle mae’n gweithio fel golygydd llyfrau Cymraeg ar gyfer Nation.Cymru, yn ogystal â gweithio ar ei lyfr cyntaf, hunangofiant o’r enw Llyfr Agored.

Mark Ellis
Mae Mark Ellis yn awdur y gyfres gydnabyddedig DCI Frank Merlin a osodir yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe gyhoeddodd 5 llyfr hyd yn hyn; y diweddaraf ym Mis Mai 2022. Yn aelod o Crime Cymru, fe gafodd ei enwebu ar gyfer wobr y CWA a’i gyhoeddwr yw Headline.

Catrin Gerallt
Fe fu Catrin Gerallt yn is-olygydd Materion Cyfoes i’r BBC am dros ugain mlynedd. Mae hi wedi cyhoeddi straeon byrion yn Gymraeg ac yn Saesneg ac wedi derbyn enwebiad medal CILIP CARNEGIE . Y Ferch ar y Cei yw ei nofel gynta, sy’n dilyn bywyd helbulus y newyddiadurwraig Bethan Morgan.

Mary Grand
Fe ganwyd Mary Grand yng Nghymru ac mae hi bellach yn byw ar Ynys Wyth. Mae hi’n ysgrifennu nofelau trosedd clasurol a leolir ar yr ynys. Ei chyfres ddiweddaraf yw “The Isle of Wight Killings”. Cyrhaeddodd y drydedd yn y gyfres, “A Christmas Murder” rhif un ar (Medi 2024) a chaiff yr un nesaf, “A Halloween Murder”, ei chyhoeddi ym Mis Gorffennaf 2025.

Morgan Greene
Morgan Greene yw awdur poblogaidd y gyfres DI Jamie Johansson, ynghyd â Savage Ridge, a ddewiswyd fel Llyfr Cymreig y Mis Waterstones, ac A Place Called Hope, a gyhoeddwyd gan Canelo. Wedi’i lansio yn 2025, mae The Exile yn llyfr cyntaf gyfres newydd Solomon Church. Mae Morgan yn byw ar ymyl Parc Cenedlaethoil Bannau Brycheiniog gyda’i wraig, a phan n ad yw’n ysgrifennu, mae’n debyg o fod allan yn cerdded (yn y glaw).

Elly Griffiths
Mae Elly Griffiths yn awdur tra phobolgaidd y Dr Ruth Galloway Mysteries, y Brighton Mysteries a nifer o nofelau trosedd arunigol. Mae hi wedi derbyn Dagr yn y Llyfrgell y CWA, a gwobr Edgar; bu ar restr fer ar gyfer Dagr Aur y CWA Gold Dagger, a chyrhaeddodd restr fer Nofel Drosedd y Flwyddyn Old Peculiar chwe gwaith. Mae Elly yn fam i ddau o blant hŷn ac mae’n byw ger Brighton gyda’i gŵr sy’n archeolegydd a’u cath, Pip.

Rod Green
Un o’r Alban, mae Rod Green wedi gweithio fel gohebydd, golygydd ac awdur am dros pedwar deg o flynyddoedd. Cydweithiodd gyda M.C. Beaton cyn ei marwolaeth yn 2019, ar ei llyfrau Agatha Raisin a Hamish Macbeth. Bellach mae e wrth ei fodd yn dyfeisio achosion llofruddiaeth hyll ar gyfer ditectifs Beaton, o ddiogelwch ei stydi yn Surrey.

Mari Hannah
Mae Mari Hannah yn awdur trosedd a sgriptwraig arobryn. Mae ei gwobrau lu yn cynnwys Dagr yn y Llyfrgell y CWA, a Llyfr Trosedd y Flwyddyn Capital Crime 2020. Mae dwy o’i thair chyfres yn cael eu datblygu ar gyfer y deledu. Mae hi’n byw gyda’i phartner, cyn-dditectif llofruddiaeth, yn Northumberland.

Jacqueline Harrett
Yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, mae Jacqueline Harrett bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle mae hi’n lleoli ei hyfres dditectif DI Mandy Wilde (Diamond Crime UK). Mae ei phrif gymeriad, yn wyllt wrth natur yn ogystal â’i henw, yn hoff o iaith fudr, yn oefn ac yn benderfynol.
Yn awdur aml-genre, mae Jacqueline hefyd yn ysgrifennu ffuglen cyfoes ar y cyd â Janet Laugharne.

Alis Hawkins
Wedi’i magu yng Ngheredigion, mae Alis Hawkins bellach yn byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ar ôl cyhoeddi dwy nofel ganoloesol arunigol, fe drodd i ffuglen drosedd. Fe leolir ei chyfres hanesyddol Crwner Dyffryn Teifi – gyda’r prif gymeriad Harry Probert-Lloyd, cyn-fargyfreithiwr lled-ddall, a’i gynorthwyydd pigog, John Davies – yn yr ardal lle tyfodd; mae wedi bod ddwywaith ar restr fer Historical Dagger y CWA mawreddog. Mae A Bitter Remedy, nofel gyntaf yn y gyfres ddirgelwch newydd a leolir yn Rhydychen, yn cyflwyno polymath ifanc Rhiannon Vaughan a darlithydd Coleg Iesu, Basil Rice; cafodd ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Ynddangosodd yr ail, The Skeleton Army, ar 4 Ebrill 2024.

Hannah Hendy
Mae Hannah Hendy yn byw mewn tref fach yn ne Cymru gyda’i gwraig, eu merch a dwy gath faldodus. Yn sieff proffesiynol, dechreuodd ysgrifennu i lenwi’r amser rhwng sifftiau. Hi yw awdur y gyfres gwerthiant-gorau trosedd clyd, The Dinner Lady Detectives, a gyhoeddir gan Canelo.
Llun yr awdur © Tom Damsell Imagery

Sarah Hilary
Enillodd nofel gyntaf Sarah Hilary, Someone Else’s Skin, wobr Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakstons yn 2015. Disgrifwyd ei nofel ddiweddaraf, Sharp Glass, fel ‘rhyfedd a chymhellol’ gan Mick Herron. Mae Sarah yn Gyfarwyddwr Rhaglennu Penwythnos Ffuglen Dosedd St Hilda, a chyd-sefydlydd Ledburied, gŵyl ffuglen drosedd yn ei thref enedigol.
Llun yr awdur © MatthewAndrews 2013

Fleur Hitchcock
Mae Fleur wedi gweithio fel merch siop, dynes cinio a churadur. Mae hi bellach yn gweithio fel gwerthwr llyfrau i blant. Mae ganddi ddau o blant hŷn ac mae’n byw yn ne-orllewin Lloegr.
Wedi’i disgrifio fel awdur “nofelau ias a chyffro i ddechreuwyr” gan y Sunday Times, mae ei nod yn dal i fod i gadw darllenwyr ar bigau’r draen.

Sarah Bax Horton
Fe ganwyd Sarah Bax Horton yn Abertawe ac fe magwyd yn ne Cymru. Yn was sifil gynt a gwirfoddolwraig gyda’r heddlu, mae hi bellach yn awdur trosedd llawn amser. Ei llyfr cyntaf yw ‘One-Armed Jack: Uncovering the real Jack the Ripper’.
Pan nad yw’n ymchwilio ac yn ysgrifennu, mae Sarah yn mwynhau gweithgareddau awyr-agored a gwrando ar ddewis eclectig o gerddoriaeth.

Richard W Ireland
Mae Richard W Ireland, Uwch Ddarlithydd Emeritws yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, wedi ysgrifennu’n helaeth ar hanes trosedd. Mae ei lyfrau’n cynnwys “Land of White Gloves”? A History of Crime and Punishment in Wales. Wedi ymddangos sawl gwaith ar y teledu a’r radio, mae e’n llawn hwyl – yn groes i’r argaff a geir efallai o’i ddisgrifiad!

Meleri Wyn James
Mae Meleri Wyn James yn olygydd llyfrau ac yn awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion. Mae ei nofel newydd, Dim Ond Un, yn ddirgelwch wedi ei lleoli ar Ynys Enlli. Mae hi’n byw yn Aberystwyth gyda’i gŵr a dau o blant ac yn rhedwraig frwd.

Matt Johnson
Ar ôl ymddeol o’r heddlu, daeth Matt Johnson yn nofelydd, ac wedyn ysgrifenodd y gyfrol trosedd go-iawn No Ordinary Day, a ddatgelodd y cynllwynio a chuddio’r gwir y tu ôl i lofruddiaeth ei gydweithwraig, WPC Yvonne Fletcher, ym 1984. Enillodd No Ordinary Day wobrau ‘Llyfr y Flwyddyn’ a ‘Dewis Darllenwyr’ CrimeCon 2024, ‘Fingerprint Award’ Capital Crime 2024 a chyrhaeddodd restr fer Dagr Aur y CWA 2024.

Philip Gwynne Jones
Awdur cyfres boblogaidd Nathan Sutherland, a leolir yn Fenis, yw Philip Gwynne Jones. Yn wreiddiol o Abertawe, mae o bellach yn byw yn Fenis gyda’i wraig Caroline a chath led-gyfeillgar, Mimi. Mae e’n mwynhau coginio, celf, cerddoriaeth glasurol a hen ffilmiau arswyd, ac mae’n gwrando ar ormod o lawer o roc blaengar yr Eidal.
Llun yr awdur © Roger Branson

Vaseem Khan
Mae Vaseem Khan yn awdur y nofel ar gyrraedd Quantum of Menace, gyda’r cymeriad Q o’r fasnachfraint James Bond. Yn 2021, enillodd Midnight at Malabar House, a leolir yn India yn y1950aus India, Ddagr Hanesyddol y CWA. Bydd The Girl in Cell A (Mis Mai 2025), a leolir mewn tref fach Gogledd America, yn nofel seicolegol gyntaf Vaseem.

Chris Lloyd
Mae Chris Lloyd wedi gweithio fel ysgrifennwr teithio a chyfieithydd. Mae Chris Lloyd yn ysgrifennu’r gyfres Eddie Giral, am dditectif ym Mharis o dan orthrwm y Natsïaid. Enillodd llyfr cyntaf y gyfres, The Unwanted Dead, wobr Gold Crown yr HWA am y nofel hanesyddol orau, ac fe ddewiswyd yr ail, Paris Requiem, yn llyfr ffuglen hanesyddol orau’r Sunday Times yn 2023.

Clare Mackintosh
Mae Clare Mackintosh yn awdur arobryn wyth gwerthwyr gorau o nofelau. Ei nofel ias a chyffro diweddaraf, Other People’s Houses, yw’r drydedd mewn cyfres a leolir yng Ngogledd Cymru, gyda’r prif gymeriad DC Ffion Morgan. Mae nofelau Clare wedi gwerthu mwy na thri miliwn o gopïau ledled y byd a chael eu cyfieithu i mewn i 40 o ieithoedd. Mae hi’n byw yng Ngogledd Cymru ac mae’n dysgu Cymraeg.
Llun yr awdur © Heledd Roberts Photography

Graham H Miller
Mae Graham H Miller yn awdur chwe llyfr mewn dwy gyfres. Mae’r ddwy nofel ddirgelwch Jonah Greene yn dilyn crwner cynorthwyol yn Ne Cymru, ac mae ganddo bedwar nofel dditectif Angel & Haines a leolir mewn tref glan-mor ffuglenol yng Ngorllwein Lloegr.

Saima Mir
Saima Mir is an award-winning journalist and writer. She has written for The Guardian, The Times, The Independent and The Daily Telegraph, and worked for the BBC. Her work appeared in the anthology, It’s Not About the Burqa in 2019, and The Best Most Awful Job in 2020. Her novel The Khan is being published by Point Blank and is due on in January 2021. The Khan has been optioned by BBC Studios.
Saima is a recipient of The Commonwealth Broadcast Association World View Award, and The K Blundell Trust Award. Saima’s work has been longlisted for The SI Leeds Literary Prize, and The Bath Novel Award.
Her screenplay Ruby & Matt has been optioned by Rendition Films.

Abir Mukherjee
Mae Abir Mukherjee yn awdur llwyddiannus y gyfres arobryn Wyndham & Banerjee. Fe gyfieithwyd ei nofelau i byntheg o ieithoedd ac maent wedi ennill gwobrau sy’n cynnwys Dagr Hanesyddol y CWA Dagger, y Prix du Polar Européen, a gwobr Wilbur Smith. Mae’ gyd-gyflwynydd y podlediad poblogaidd Red Hot Chilli Writers.
Llun yr awdur © Nick Tucker

Louise Mumford
Roedd nofel gyntaf Louise, Sleepless, yn y 50 gwerthwyr gorau Kindle a ‘Killer Read Karin Slaughter’ Asda. Dilynodd The Safe House a The Hotel, a’i llyfr diweddaraf yw The Festival. Mae hi wedi ymddangos yng Ngŵyl y Gelli ac ar radio BBC Wales, ac mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer y papur newydd i a chylchgrawn S y Sunday Express.

Ayo Onatade
Mae Ayo Onatade yn sylwebydd, llywydd a siaradwraig llawrydd ar bob agwedd o ffuglen drosedd, sydd wedi enill Wobr Red Herring. yn cyn-feirniad Dagrs y CWA, mae hi’n blogio ar gyfer Shotsmag Confidential. Ar hyn o bryd mae hi’n beirniadu Gwobr Ngaio Marsh (gwobr awduron trosedd Seland Newydd) ac mae’n gadeirydd Coron ar gyfer Awdurong Newydd y Historical Writers Association.

James Oswald
James is the author of fourteen (and counting) novels in the Inspector McLean series, three Constance Fairchild novels, the five part Ballad of Sir Benfro fantasy series and the Ceredigion-set standalone novel Broken Ghosts. When he’s not writing, he raises pedigree Highland cattle on his farm in North East Fife
Mae James yn awdur pedwar ar ddeg (hyd yma) nofel yng nghyfres Inspector McLean, tair nofel Constance Fairchild, y gyfres ffantasi pum rhan The Ballad of Sir Benfro, a’r nofel arunigol Broken Ghosts. Pan nad yw’n ysgrifennu, mae e’n magu gwartheg Ucheldirol ar ei fferm yn ngogledd-dwyrain Fife.
Llun yr awdur © Bill Waters

Helen Palmer
Yn Archifydd y Sir yn Archifdy Ceredigion ers amser maith, mae Helen Palmer yn gweithio fel Swyddog Estyn Allan yng Nghymru ar gyfer Cymdeithas Brydeinig Hanes Leol. Mae ei brwdfrydedd di-ben-draw i siarad wrth bob cynulleidfa y mae hi’n dod o hyd iddynt, yn seiliedig ar ei chred taer y gall archifau, gyda’u hanesion a’u dirgelion, gyfoethogi bywyd bron pawb.

Gwen Parrot

Ambrose Parry
Ambrose Parry is a pseudonym for a collaboration between Chris Brookmyre and Marisa Haetzman. The couple are married and live in Scotland. Chris Brookmyre is the international bestselling and multi-award-winning author of over twenty novels, including Black Widow – featuring a skilled female surgeon – winner of both the Theakston Old Peculier Crime Novel of the Year and the McIlvanney Prize for Scottish Crime Novel of the Year. Dr Marisa Haetzman is a consultant anaesthetist of twenty years’ experience, whose research for her Master’s in the History of Medicine uncovered the material upon which their novels are based.
Author photo © Bob McDevitt

Colin R Parsons
Mae Colin R Parsons yn awdur ffuglen i blant a phobl ifanc o Gwm Rhondda yn ne Cymru. Mae e’n awdur llawn amser ac yn gwirioni ar ffuglen wyddonol, ffantasi a steampunk. Fe ysgrifennodd Wizards’ Kingdom, a werthodd 20,000 o gopïau. Dechreuodd ei daith cyhoeddi’n draddodiadol yn 2014.
Mae Colin yn ymweld ag ysgolion i wneud cyflwyniadau a gweithdai.

David Penny
Awdur nofelau dirgelwch Thomas Berrington yw David Penny. Ar ôl cyfnod o gyhoeddi traddodiadol yn ei 20au, a blwch o dros 50 mlynedd, dewisodd gyhoeddi’n annibynol wrth ddychwelyd at ysgrifennu. Mae ei waith ar gael yn Saesneg ac mae wedi’i gyfieithu i’r Sbaeneg a’r Almaeneg.


Nia Roberts
Mae gan Nia Roberts ddoethuriaeth mewn Llenyddiaeth Cymru, ac ers 13 blynedd mae hi’n Olygydd Creadigol i Wasg Carreg Gwalch, gan arbenigo mewn ffuglen iaith Gymraeg. Mae hi’n byw ym Mangor.

Phil Rowlands
Mae Phil wedi ysgrifennu ar gyfer y radio, y teledu a ffilm, ac mae’n gyfarwyddwr sefydlu Diamond Books, gwasg bach annibynol bach. Cafodd ei ddrama teledu Pili Pala (Butterfly Breath) ei henwebu ar gyfer gwobr y Royal Television Society. Mae e’n awdur tair nofel seicolegol, Siena, Single Cell, a TimeSlip, ac mae’n gweithio ar bedwerydd.

Leslie Scase
Fe ganwyd ac addysgwyd Leslie Scase ym Mhontypridd ond mae e bellach yn byw yn Amwythig. Mae e’n siarad yn rheolaidd ar drosedd yn oes Fictoria hwyr, wedi ymddangos mewn nifer o wyliau llenyddol a chael ei gyfweld ar radio’r BBC. Mae e ddiddordebau’n cynnwys hanes milwrolo, pysgota â phlu, coginio, cwrw go-iawn, pêl-droed a rygbi’r undeb.

Zoë Sharp
Treuliodd Zoë ei phlentyndod yn byw ar fwrdd catamarán wrth arfordir gogledd-orllewinol y DU. Fe dynnodd yn ôl o addysg y brif ffrwd yn ddeuddeg oed, ac fe ysgrifennodd ei nofel gyntaf yn bymtheg oed. Dechreuodd Sharp ysgrifennu ffuglen drosedd ias a chyffro ar ôl derbyn bygythiadau marwolaeth yn ystod ei gwaith fel ffoto-ohebydd.
Llun yr awdur © Nick Lockett

L J Shepherd
Mae L.J. Shepherd yn byw yng Nghaerdydd gyda’i chath wedi’i hachub, Coral. Ar ôl graddio o’r brifysgol, dilynodd yrfa yn y gyfraith. Daeth Laura’n fargyfreithwraig yn 2017. Ers hynny mae hi wedi erlyn ac amddiffyn mewn llawer o achosion o flaen rheithgor yn Llys y Goron. Ers penderfynu nad oedd bywyd troseddol yn llwybr iawn iddi, fe ddaeth yn fargyfreithwraig Hawliau Dynol. Caiff ei nofel gyntaf, The Trials of Lila Dalton, ei chyhoeddi yn 2024 ac mae bellach argael mewn clawr meddal.

Sarah Todd Taylor
Fe fagwyd Sarah Todd Taylor yn Sir Efrog a Cheredigion, lle mae hi’n byw nawr. Mae’n ysgrifennu llyfrau trosedd hanesyddol ac ysbïo i blant, ac mae ei chyfres ddiweddaraf yn dilyn anturiaethau patissière ifanc dalentog ym Mharis yn y 1930au, sy’n ysbïwraig ifencaf Ffrainc. Bydd hi wastad yn fodlon gwrando arnat ti’n siarad am dy anifeiliaid anwes.

Ronnie Turner
Mae Ronnie Turner yn awdur So Pretty, a enillodd canmoliaeth fawr gan adolygwyr. Yn ddeunaw oed, cofrestrodd Ronnie gydag asiantaeth lenyddol flaenllaw yn Llundain, a chyhoeddodd ei nofel gyntaf. Mae hi’n byw yn ne-orllewin Lloegr. Ei hysbrydoliaeth yw’r llên gwerin a chwedloniaeth sy’n rhedeg trwy’r wlad.
Mae hi’n hefyd yn brif lyfrwerthydd Waterstones.

Sarah Ward
Mae Sarah Ward yn awdur deg nofel drosedd. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu dwy gyfres She is currently writing two series – un a leolier yn Lloegr Newydd a’r llall yng ngorllewin Cymru, lle mae hi’n byw. Mae Sarah yn gyn-Is-Gadeirydd y Crime Writers Association ac mae’n drysorydd Gŵyl Crime Cymru Festival.

GB Williams
Mae GB Williams yn arbenigo mewn nofelau trosedd cymhleth a chyflym. Wedi’i geni a’i magu yn Nghaint, symudodd GB i Dde Cymru ac ymgartrefodd yno. Mae hi bellach yn gweithio fel golygydd ac awdur ar ei liwt ei hun ac yn byw gyda’i theulu a chath fwyaf awdurdodus yn y byd. Mae hi’n casáu pob un llun a dynnir ohoni. Darganfyddwch fwy yn www.gailbwilliams.co.uk.

GJ Williams
Mae GJ Williams yn awdur y gyfres Tudor Rose Murders, sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau a phobl go-iawn oes y Tuduriaid, gydag ychwanegiad plot a chyrff marw. Mae’r ddau nofel gyntaf, The Conjuror’s Apprentice a The Wolf’s Shadow, ar gael, a chaiff The Cygnet Prince ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Dewiswyd y gyfres i’w dosbarthu yn yr Unol Daleithiau.

Nicola Williams
Mae Nicola Williams yn Farnwr Llys y Goron rahn-amser. Mae hi hefyd yn awdur tair nofel ias a chyffro gyfreithiol. Dewiswyd Without Prejudice ar gyfer y gyfres Black Britain: Writing Back gan Bernardine Evaristo ac enillodd Until Proven Innocent wobr Dewis Darllenwyr y Diverse Book Awards 2024. Ei nofel ddiweddaraf yw Killer Instinct.
